Cloriau cŵl merched y chwyldro
- Cyhoeddwyd
Edrychwch nôl ar ffasiynau'r chwedegau a'r saithdegau yng Nghymru mewn casgliad o gloriau mae label recordiau Sain wedi eu canfod wrth ymchwilio ar gyfer CD newydd.
Mae Rhannu'r Hen Gyfrinachau, dolen allanol yn gasgliad o leisiau merched byd canu pop a gwerin Cymru rhwng 1965 a 1975 pan roedd llawer iawn o grwpiau newydd Cymru yn ferched.
"Rhain oedd arwresau'r cyfnod," meddai Gwenan Gibbard ac Elin Evans sydd wedi dod â'r casgliad at ei gilydd.
"Roedd 'na rywbeth yn y dŵr yng nghanol y 60au a merched ifanc yn darganfod eu llais a'u lle o fewn y byd adloniant poblogaidd - merched â chyfoeth traddodiad cerddorol eisteddfod, ysgol Sul, cyngerdd a noson lawen yn eu gwaed - yn mentro rhoi eu stamp unigryw eu hunain ar ganu Cymraeg gan ymuno yn y chwyldro cerddorol Cymreig…"