Lluniau Steddfod: Dydd Sul
- Cyhoeddwyd
Lluniau dydd Sul yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.
Gallwch weld y newyddion, canlyniadau, uchafbwyntiau a fideo byw o'r Pafiliwn yn ein hadran arbennig ar Cymru Fyw.

Mae Ffion a Rhian o Bethel ger Caernarfon yn yr Eisteddfod i gystadlu gyda'u grŵp dawns

"Fan hyn mae'r baned orau," meddai Katie a Rhian sy'n dewis cyfarfod ym mhabell Merched y Wawr oherwydd safon y te a'r cacennau

Ceri o Rhiwlas ger Bangor yn gwneud yn siwr nad ydy ei mab Gruffudd yn llosgi yn yr haul rhwng y cawodydd

Y darlledwr bytholwyrdd Hywel Gwynfryn heb feicroffon am unwaith wrth iddo grwydro'r Maes

Perfformiad wedi ei ysbrydoli gan hanes y chwareli gan gast ifanc Cwmni Frân Wen yn y Lle Hanes

Mae Tim Hampson yn dod o Ddyfnaint ac yn un o'r ychydig bobl sy'n gwneud telynau teires - maent i'w gweld ar stondin Cymdeithas y Delyn Deires sydd newydd gael ei sefydlu

Ar goll? Diolch byth am y mapiau mawr sydd o gwmpas y Maes

Lleucu'n arddangos popeth sydd ei angen mewn Steddfod: dillad cyfforddus, welis, bag i ddal pres gwario, bag cefn i ddal yr holl bethau eraill, ac, yn bwysicaf oll, os ydych dan 10, balŵn

...a digon o le i roi'r holl sticeri!

Nid ail-greu'r glaniad cyntaf ar y lleuad yn 1969 ond y teulu Canty o Brestatyn yn trïo gogls adran seicoleg Prifysgol Bangor yn y Pentref Gwyddoniaeth

Arweinydd Côr Dyffryn Dyfi, Arfon Williams, yn mynd i ysbryd y darn wrth i'r côr ymarfer mewn pabell ar y Maes cyn mynd ar y llwyfan

Ahoy! i gyflwynwyr Cyw

O Cyw i'r ciw - roedd rhesi hir o bobl yn aros i fynd i weld cystadleuaeth boblogaidd y rhaglen o adloniant gan gorau heb fod yn llai nag 20 mewn nifer

Hafan i rieni â phlant bach - y Pentref Plant (mae'r bar rownd y gornel)

Elis o Fangor yn joio ar 'Space Hopper'
Hefyd o ddiddordeb: