Tân mawr mewn becws yn Wrecsam 'bellach dan reolaeth'

Bu'n rhaid gwagio safle Village Bakery ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam ar frys fore Llun wedi tân mawr a mwg oedd i'w weld o filltiroedd i ffwrdd.

Dywed rheolwyr y cwmni bod pob un o'u gweithwyr "yn ddiogel ac iach" wedi'r tân a'u bod yn cydweithio â'r awdurdodau i ganfod yr achos.

Roedd y fflamau wedi lledu o uned gynhyrchu i floc o swyddfeydd drws nesaf, ac roedd yna gyngor i bobl mewn adeiladau cyfagos i gadw eu drysau a'u ffenestri ar gau.

Ond erbyn dechrau'r prynhawn roedd y sefyllfa dan reolaeth, fel yr eglura Gwyn Jones o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.