Tân mawr yn safle becws ar stad ddiwydiannol Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Tân Village BakeryFfynhonnell y llun, Jordan Hollingsworth

Mae rheolwyr becws ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam yn dweud ei bod yn "ddiwrnod anodd" i'r cwmni wedi tân sydd wedi achosi difrod "sylweddol".

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i Village Bakery am 08:41 fore Llun, ac mae'r fflamau bellach dan reolaeth ond mae swyddogion yn parhau i chwistrellu dŵr ar y safle.

Dywedodd llygad dystion wrth BBC Cymru bod y tân yn "anferthol" a bod mwg o'r safle i'w weld o rai milltiroedd.

Dywed y cwmni bod pawb oedd yn y becws wedi gadael y safle yn ddiogel.

Disgrifiad,

Dywedodd Gwyn Jones o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod y digwyddiad "bellach dan reolaeth"

Dywedodd Jordan Hollingsworth, sy'n gweithio mewn adeilad gyferbyn â'r becws: "Roedd yna ychydig o fwg tua 8:45 i 8:50 [ond] o fewn pump i 10 munud roedd yna fwg du trwchus yn dod dros y top."

Fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru gau Ffordd Coed Aben ar y stad tra bo'r gwasanaethau brys yn delio â'r tân gan ofyn i bobl osgoi'r ardal am y tro.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fore Llun bod ardal gynhyrchu un llawr ar dân "yn llwyr" a bod fflamau wedi lledu i floc cyfagos o swyddfeydd.

Fe wnaeth y gwasanaeth ddanfon wyth injan dân o Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Bwcle, Llangollen, Caer a Chroesoswallt, ynghyd â dau beiriant gydag ystol uchel sy'n chwistrellu dŵr ar y fflamau, ac uned rheoli digwyddiad o'r Rhyl.

Roedd yna gyngor i bobl mewn adeiladau cyfagos gadw drysau a ffenestri ar gau.

Ffynhonnell y llun, Luke Neale

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Village Bakery, Robin Jones: "Ein prif flaenoriaeth yw lles ein staff ac rydym yn ddiolchgar bod pawb yn ein becws yn Wrecsam yn ddiogel ac yn iach.

"Mae hynny i raddau oherwydd ein bod wedi dilyn ein trefniadau argyfwng a bod y rheiny wedi bod yn effeithiol."

"Fe fyddwn yn asesu maint y difrod ac yn gwneud popeth posib i helpu'r gwasanaeth tân ganfod yr achos.

Ffynhonnell y llun, @JonesyVMFC

Fe dalodd Mr Jones deyrnged i'r staff "am y ffordd wych wnaethon nhw ymateb i heriau'r tân sydd wedi difrodi un o'n safleoedd yn Wrecsam yn ddifrifol".

"Mae hwn yn ddiwrnod anodd iawn yn hanes Village Bakery, ond fe ddown ni'n ôl yn gryfach nag erioed."

Dywedodd hefyd bod safleoedd eraill y cwmni'n aildrefnu'r gwaith cynhyrchu i leihau effaith y tân ar gyflenwadau i'w cwsmeriaid.