Mark Drakeford: 'Ni'n mynd i ymdrechu i aros yn yr UE'

Fe fyddai Llywodraeth Cymru yn ymgyrchu dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd mewn unrhyw refferendwm Brexit pellach, hyd yn oed petai yna lywodraeth dan arweiniad Jeremy Corbyn yn San Steffan, medd Prif Weinidog Cymru.

Mewn cyfweliad â BBC Cymru, mae Mark Drakeford yn mynd gam ymhellach na Mr Corbyn, sy'n gwrthod cadarnhau a fyddai yntau'n pleidleisio dros aros yn yr undeb petai 'na ail refferendwm Brexit.

Gyda'r Prif Weiniog Ceidwadol, Boris Johnson yn mynnu y bydd y DU yn gadael yr UE ar 31 Hydref boed yna gytundeb ai peidio, mae Mr Corbyn yn gobeithio atal Brexit digytundeb trwy ddisodli'r weinyddiaeth bresennol wedi cynnig o ddiffyg hyder.

Fe wnaeth Mr Drakeford ei sylwadau wrth gael ei holi gan ohebydd Brexit BBC Cymru, James Williams.

Dywedodd Mark Drakeford y byddai ei lywodraeth yn cefnogi aros yn yr Undeb hyd yn oed petai llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan wedi cyrraedd cytundeb Brexit newydd.

Mae'n newid polisi pellach gan Lywodraeth Cymru oedd yn wreiddiol yn cefnogi fersiwn o Brexit oedd yn parchu canlyniad y refferendwm yn 2016 ond yn sicrhau perthynas agos â Brwsel.

Mae arweinydd Llafur Jeremy Corbyn, wedi gwrthod dweud a fyddai'n cefnogi aros yn yr Undeb waeth beth oedd yr opsiynau eraill ar y papur pleidleisio.