'Byddai Llywodraeth Cymru'n ymgyrchu dros aros yn yr UE'
- Cyhoeddwyd
Fe fyddai Llywodraeth Cymru yn ymgyrchu dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd mewn unrhyw refferendwm Brexit pellach, yn ôl y prif weinidog.
Dywedodd Mark Drakeford y byddai ei lywodraeth yn cefnogi aros yn yr Undeb hyd yn oed petai llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan wedi cyrraedd cytundeb Brexit newydd.
Mae'n newid polisi pellach gan Lywodraeth Cymru oedd yn wreiddiol yn cefnogi fersiwn o Brexit oedd yn parchu canlyniad y refferendwm yn 2016 ond yn sicrhau perthynas agos â Brwsel.
Mae arweinydd Llafur Jeremy Corbyn, wedi gwrthod dweud a fyddai'n cefnogi aros yn yr Undeb waeth beth oedd yr opsiynau eraill ar y papur pleidleisio.
Mae Mr Corbyn wedi amlinellu cynllun i atal Brexit heb gytundeb sy'n cynnwys trechu'r llywodraeth mewn pleidlais o ddiffyg hyder ac yna dod yn brif weinidog dros dro.
Os byddai'n llwyddo, mae'n gobeithio arwain llywodraeth dros dro a fyddai'n gohirio dyddiad Brexit er mwyn cynnal etholiad cyffredinol.
Yn yr etholiad cyffredinol hwnnw, fe fyddai Llafur yn galw am refferendwm arall ar delerau gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd Mr Drakeford y byddai llywodraeth Lafur yn y dyfodol wedyn yn "ceisio cael sgwrs wahanol gyda'r Undeb Ewropeaidd ond y byddai 'Aros' yn cael ei gynnwys ar y papur pleidleisio mewn unrhyw refferendwm."
Ychwanegodd: "Mae casgliad Llafur Cymru a llywodraeth lafur Cymru yn glir - bydd Llafur yn rhoi 'Aros' ar y papur pleidleisio a bydd y llywodraeth hon yn ymgyrchu yng Nghymru dros 'Aros' yn yr Undeb Ewropeaidd.
Mae Boris Johnson wedi dweud y bydd y DU yn gadael yr UE ar 31 Hydref â chytundeb ai peidio.
Cafodd astudiaeth gan lywodraeth San Steffan sy'n rhybuddio am effaith Brexit heb fargen ei ollwng i'r Sunday Times dros y penwythnos.
Mae'r dogfennau'n rhybuddio am brinder bwyd a meddyginiaeth, misoedd o giwiau ym mhorthladdoedd, a chynnydd posibl mewn anhrefn cyhoeddus os bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb.
Dywedodd gweinidog y Cabinet, Michael Gove, sy'n gyfrifol am baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb, fod y dogfennau'n hen a bod cynlluniau Brexit y llywodraeth wedi cyflymu ers i Boris Johnson ddod yn Brif Weinidog.
Ond dywedodd Mark Drakeford fod y dogfennau a ddatgelwyd yn y Sunday Times yn "adlewyrchu" cynnwys y papurau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gweld wrth weithio ar baratoadau ar gyfer Brexit heb gytundeb yn San Steffan.
'Adlewyrchu ein pryderon'
Dywedodd prif weinidog Cymru: "Nid fy lle i yw cadarnhau dogfennau llywodraeth y DU.
"Dwi'n gallu dweud bod ni wedi bod yn eistedd ar bwyllgorau yn Llundain ynglŷn â pharatoi ar gyfer Brexit heb gytundeb, mae yna ddogfennau sy'n cael eu darparu i ni fel rhan o'r gwaith hwnnw, rydym yn parchu cyfrinachedd y dogfennau hynny.
"Ond mae cynnwys y papurau hynny yn adlewyrchu'r hyn rydych chi wedi'i weld yn y papurau newydd dros y penwythnos, yn adlewyrchu ein pryderon hefyd," ychwanegodd.
Roedd y dogfennau a ddatgelwyd yn y papur newydd hefyd yn awgrymu y gallai Brexit heb gytundeb arwain at gau dwy o'r chwe phurfa olew mawr yn y DU.
Mae Valero yn cyflogi mwy na 500 o bobl yn ei burfa olew ym Mhenfro.
Rhybuddiodd Stephen Crabb, AS Ceidwadol Preseli Penfro, y byddai Brexit heb gytundeb yn ei gwneud yn anoddach i Valero gynyddu buddsoddiad yn ei safle yn Sir Benfro ond dywedodd nad yw'r cwmni "yn awgrymu mewn unrhyw ffordd y byddai Brexit heb gytundeb yn golygu diwedd" y safle.
Os bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb, fe fyddai allforion petrol y DU i'r UE yn destun trethi ond nid yw llywodraeth San Steffan yn bwriadu cyflwyno'r un trethi hynny ar fewnforion petrol.
Mewn llythyr a anfonwyd ar y cyd gan lywodraethau Cymru a'r Alban ar 19 Gorffennaf at y Canghellor ar y pryd, Philip Hammond, maent yn galw ar Lywodraeth y DU i ailystyried ei chynllun tariff ar gyfer mewnforio petrol "ar frys".
Mae'r llythyr, a welwyd gan BBC Cymru, yn dweud: "Rydyn ni'n cael ein dychryn gan ddiffyg ymgynghoriad â'r diwydiant wrth baratoi'r tariffau hyn, ynghyd â'u heffaith niweidiol ar sector sy'n bwysig yn strategol ac yn hanfodol i'n heconomïau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Awst 2019
- Cyhoeddwyd16 Awst 2019
- Cyhoeddwyd15 Awst 2019