Croeso i'r targedau amser aros gan gyn-glaf canser

Mae'r ystadegau swyddogol cyntaf yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau ers i newidiadau gael eu cyflwyno i'r modd mae targedau amser aros canser Cymru'n cael eu mesur.

Mae'r drefn newydd a gafodd ei chyflwyno ym mis Mehefin yn cyfri'r amser aros o'r adeg y mae meddyg yn amau bod canser ar y claf.

Cyn Mehefin, roedd yr amser aros yn cael ei gyfri o'r adeg roedd y claf yn cael ei gyfeirio i'r ysbyty am y tro cyntaf.

Y nod yw cyflymu diagnosis a gwella cyfraddau goroesi gwael.

Mae'r dull newydd o fesur wedi ei groesawu gan feddygon, elusennau canser a chleifion fel Kelly Parry, a gafodd ei thrin am ganser y fron yn 2013.