Cyhoeddi ffigyrau targedau canser Cymru am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd
Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno targedau amser aros unigol i gleifion canser.
Y nod ydy sicrhau diagnosis cyflymach a gwella'r gyfradd goroesi ymhlith y 17,500 sy'n datblygu canser yng Nghymru bob blwyddyn.
Ers mis Mehefin, mae pob claf i fod i gael eu trin mewn ychydig dros 60 diwrnod, gan ddechrau gyda'r dydd y mae meddyg yn amau gyntaf bod canser.
Mae'r ffigyrau'n dangos fod 74.4% o'r 1,374 claf wedi dechrau triniaeth o fewn y targed o 62 niwrnod.
Mae'r dull newydd o fesur wedi ei groesawu gan feddygon ac elusennau canser, ac mae Lloegr a Gogledd Iwerddon yn gwylio'r newid yn ofalus.
Yr un llwybr i bawb
O dan yr hen drefn roedd cleifion canser yn cael eu trin ar ddau lwybr gwahanol.
Os oedd meddyg yn credu bod achos amlwg o ganser, byddai'r claf yn cael ei drin fel achos brys a'r driniaeth i fod i ddechrau o fewn 62 diwrnod.
Ond os oedd symptomau yn llai eglur ac nad oedd hi'n amlwg bod canser, gallai claf gael ei weld gan sawl gweithiwr iechyd gwahanol, weithiau dros gyfnod o fisoedd, cyn cael diagnosis o ganser.
Dim ond wedyn roedd targed o 31 diwrnod yn cael ei osod ar gyfer eu trin.
Roedd y targed yn fwy llym, ond gallai'r claf eisoes fod wedi aros yn llawer hirach.
Ffigyrau unigol
Roedd ffigyrau unigol ar gyfer y byrddau iechyd yn dangos fod 85% o gleifion Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi derbyn triniaeth ym mis Mehefin o fewn y 62 niwrnod, a 64.5% yng Nghwm Taf.
Ar y cyfan, mae cyfeiriadau canser wedi cynyddu 50% yn y pum mlynedd diwethaf.
Roedd y ffigyrau diweddaraf ar gyfer yr hen drefn yn dangos fod 163 claf wedi gorfod aros yn hirach na'r amser targed - ffigwr sydd wedi gostwng ers y 173 ym mis Mai.
Cafodd 79.6% o gleifion eu trin ar amser mewn achosion brys, gyda 96.5% yn cael triniaeth brydlon lle nad oedd canser yn amlwg o'r cychwyn.
Fe gafodd Kelly Parry ddiagnosis o ganser y fron yn 2013 pan oedd hi'n 28 oed, ar ôl aros chwe wythnos i gael apwyntiad yn yr ysbyty.
Ond ar ôl hynny mae'n dweud fod ei thriniaeth wedi digwydd yn "sydyn iawn", ac mae'n croesawu'r drefn newydd fydd yn cysoni'r targedau i gleifion.
"Cyn gynted maen nhw'n gallu cael eu gweld, a phethau'n cael eu gwneud, y gorau," meddai.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething: "Mae canser yn lladd mwy o bobl yng Nghymru a Phrydain nag unrhyw gyflwr arall.
"Mae'n debygol iawn y bydd canser yn effeithio ar fywyd pawb rhywbryd.
"Rydym yn cefnogi byrddau iechyd i wella perfformiad ar y mesur newydd ac rwy'n hyderus y bydd yn arwain at wella gwasanaethau i bobl sydd wedi eu cyffwrdd gan ganser.
"Mae hwn yn gam hollbwysig er mwyn gwella triniaeth canser yng Nghymru."
Mae £3m y flwyddyn yn cael ei roi i fyrddau iechyd er mwyn ymateb i'r newid a gwella diagnosis.
Dywedodd Richard Pugh, o elusen canser Macmillan eu bod nhw'n croesawu'r "cam dewr" gan Lywodraeth Cymru.
"Mae'r ffigyrau yn dangos fod chwarter o'r bobl sy'n dioddef o ganser yng Nghymru heb ddechrau are u triniaeth ar amser ym mis Mehefin - 352 person.
"Rydym o'r farn y bydd y dull mwy tryloyw yma yn ei gwneud yn eglur ble mae oedi a beth sy'n ei achosi, gan felly sicrhau gwelliant fel bod pawb sy'n cael diagnosis o ganser yng Nghymru yn cael triniaeth brydlon sy'n cwrdd â'u hanghenion."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2016