'Fydd yna ddim treftadaeth i'w amddiffyn'
Mae'r fenter gymunedol, Llety Arall yn ystyried apelio yn erbyn penderfyniad Cyngor Gwyned i'w hatal rhag gosod paneli solar ar y to am fod modd gweld yr adeilad o Gastell Caernarfon.
Dywed y cyngor eu bod wedi dilyn polisïau cynllunio a byddai paneli ar ochor flaen yr adeilad yn cael "effaith andwyol ar gymeriad yr Ardal Gadwraeth a Safle Treftadaeth y Byd".
Ond mae'r cyngor ei hun wedi gosod paneli solar ar do ei bencadlys, sydd ar stryd gyfagos ac sydd hefyd o fewn golwg i'r castell.
Mae'r sefyllfa'n ddryslyd, medd y pensaer Selwyn Jones, sydd ar bwyllgor Llety Arall.