Penderfyniad i wrthod paneli solar yn 'ddryswch mawr'

  • Cyhoeddwyd
Llety Arall o Gastell Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Llety Arall, yng nghanol y llun, o Gastell Caernarfon

Mae cais gan fenter gymunedol i osod paneli solar ar do adeilad yng nghanol Caernarfon wedi cael ei wrthod gan Gyngor Gwynedd gan fod modd gweld yr adeilad o'r Castell.

Ond mae gan y cyngor ei hun nifer helaeth o baneli solar ar eu pencadlys, sydd ar y stryd nesaf, ac sydd hefyd i'w weld yn glir o'r castell.

Penderfynodd y cyngor y byddai gosod paneli a symud y ffenestri presennol ar do Llety Arall yn Stryd y Plas yn "annerbyniol" ac yn cael "effaith andwyol ar gymeriad yr Ardal Gadwraeth a Safle Treftadaeth y Byd".

Dywedodd y pensaer Selwyn Jones, sydd ar bwyllgor Llety Arall, bod y sefyllfa'n "ddryswch mawr" a bod y pwyllgor sy'n rheoli'r fenter yn ystyried apelio yn erbyn penderfyniad y cyngor.

Disgrifiad,

Cafodd Cymru Fyw gipolwg y tu mewn i Llety Arall cyn iddo agor i'r cyhoedd

"Mae Cyngor Gwynedd ei hunan wedi datgan argyfwng hinsawdd," meddai Mr Jones.

"Ydy mae treftadaeth yn bwysig, ond ar ddiwedd y dydd, os nad ydan ni'n datrys y sefyllfa o ran yr argyfwng hinsawdd fydd yna ddim treftadaeth i'w amddiffyn ac i edrych ar ei ôl."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r paneli solar ar do pencadlys Cyngor Gwynedd i'w gweld yn glir o gastell y dref

Dywed y cyngor bod cais Llety Arall wedi ei benderfynu "yn unol â pholisïau cynllunio".

Mae'r awdurdod wedi caniatáu rhoi panel ar gefn yr adeilad - sydd heb ei restru - ond nid ar ochr flaen y to.

Agorodd Llety Arall ddechrau haf eleni fel bod ymwelwyr yn gallu cael profiad o aros mewn ardal lle mae'r Gymraeg i'w chlywed ymhob man o'u cwmpas.