Billi y crëyr glas sy'n rhan o gymuned Aberdaron

Mae pentref Aberdaron yn adnabyddus fel cyrchfan boblogaidd ar gyfer ymwelwyr sy'n dod i Ben Llŷn, ond wyddoch chi fod 'na fwy na thraeth a golygfa yn denu pobl?

Mae Billi y crëyr glas wedi bod yn croesawu pobl i'r pentref ers tua 15 mlynedd, gan ei fod yn aml i'w weld ar ben to siop Spar y pentref.

Yn ôl gweithwyr y siop mae pobl wedi bod yn dod o "bedwar ban byd er mwyn gweld Billi ar y to, ac er mwyn tynnu ei lun."

Mae'n debyg fod Billi'n parhau â thraddodiad teuluol, gan fod ei dad, Daron, hefyd wedi byw ar yr un to.

Hefyd o ddiddordeb: