Dolffiniaid yn y Fenai

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

"Ti'n gweld nhw Luke?!" Fe wnaeth Cara a Luke gynhyrfu'n lân wrth weld dolffiniaid trwyn potel yn y Fenai fis Awst 2019

Mae ymwelwyr ag Afon Menai wedi cael cyfle prin i weld dolffiniaid yn nofio a chwarae yn y dŵr yno yn ystod mis Awst 2019.

Un o'r bobl sydd wedi eu gweld bedair gwaith dros gyfnod o dair wythnos dros yr haf yw Emrys Jones, peilot y cwch cario teithwyr Queen of the Sea.

Ar un o'i deithiau fe gafodd ei wyrion, Cara a Luke, fodd i fyw yn gweld tri dolffin am y tro cyntaf yn chwarae mig gyda'r cwch yn y môr ar gyrion Caernarfon.

Mewn dros 50 mlynedd ar y môr dyma'r tro cyntaf i Emrys weld dolffiniaid yn aros cyhyd ar ôl dod i'r Fenai o'r môr mawr, meddai.

Y tro cyntaf iddo'u gweld yn 2019 oedd ar Awst 8 wrth fynd o dan Bont Menai.

Bryd hynny daeth tri dolffin i fyny i wyneb y dŵr ac aros gyda'r cwch am ryw 10 munud, meddai.

"Roedd pawb yn dod oddi ar y cwch efo gwên ar eu hwynebau - mae o yn magical experience iddyn nhw!"

Maen nhw hefyd wedi eu gweld o gwmpas Felinheli ac yn mynd allan am y bae o Gaernarfon.

Cafodd y fideo o Luke a Cara yn eu gweld ger Caernarfon ei ffilmio lai nag wythnos yn ddiweddarach ar Awst 13, pan oedd na dri o'r creaduriaid oddi ar arfordir Caernarfon drwy'r dydd, sy'n rhywbeth prin iawn ym mhrofiad Emrys.

Ffynhonnell y llun, Queen of the Sea

Mae'n credu mai bwydo ar frithyll môr oedd wedi casglu yn aber yr Afon Seiont oedden nhw.

"Roeddan nhw o fewn 100 llath o'r bwi drwy'r dydd yn bwydo, oni methu coelio'r peth!" meddai Emrys.

"Oeddan nhw'n dod atan ni - maen nhw'n groesawus iawn, maen nhw interactio efo chi - yn aros am ryw funud neu ddau wedyn mynd yn ôl i fwydo.

"Roedd hi yn hwyr yn y bora pan oeddan nhw yna gynta ac roeddan nhw yna drwy'r dydd tan gyda'r nos - aethon nhw allan drwy'r gap ac i'r bae jyst cyn iddi dywyllu y noson honno."

Pam?

Gyda'i brofiad helaeth fel peilot tanceri, cychod pysgota a llongau i deithwyr mae Emrys wedi gweld dolffiniaid sawl gwaith dros y blynyddoedd oddi ar arfordir Cymru, ac ambell un yn y Fenai hefyd - o gwmpas Biwmares yn enwedig, ond fel arfer maen nhw'n mynd yn ôl allan, nid yn aros yn y Fenai.

"Mae 'na sightings wedi bod ac maen nhw yn y baeau yma ond i ddod yr holl ffordd i fewn ac aros i fewn drwy'r dydd, mae hynna'n arbennig," meddai.

"Mae'n dipyn o experience i'w gweld nhw, mae o yn sbesial, dim bwys faint o weithiau ti wedi eu gweld nhw, mae'n fraint bob tro," meddai.

"Ond dani'n gweld nhw mwy a mwy rŵan a dwi ddim yn gwybod pam. Be sy'n poeni fi ydy bod nhw'n gorfod dod i mewn am y feed.

Ffynhonnell y llun, Queen of the Sea
Disgrifiad o’r llun,

Mae Emrys Jones wrth ei fodd yn gweld y dolffiniaid ond yn poeni pam eu bod yn dod i'r Fenai am gyfnodau hirach

"Gobeithio nad oes na ddim rheswm pam eu bod nhw'n gorfod dod rŵan; dydyn nhw heb fod yn dod ers yr holl flynyddoedd dwi wedi bod yn rhedeg cwch.

"Mae'n sbesial eu gweld nhw, ond fysa'n well gen i beidio eu gweld nhw yma os oes na ryw reswm mwy sinistr pam bod nhw'n dod i fewn.

"Mae pethau'n newid yn y byd - dani'n neud lot o ddrwg, y plastics ma a'r climate yn newid. Mae'n neis i bobl eu gweld nhw ond ti'n meddwl am y llun mwy ac mae isho gofyn pam."

Mae Nia Jones, swyddog ymwybyddiaeth forol Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, yn credu mai dod i'r Fenai i fwydo maen nhw hefyd, ac mae hynny'n beth da meddai o ran dangos fod y Fenai'n ffynnu.

Dolffiniau trwyn potel ydyn nhw meddai Nia Jones, anifail cyffredin yn y moroedd o gwmpas Cymru - mae ysgol fawr ohonyn nhw, hyd at 300, yn byw ym Mae Ceredigion ac ar arfordir gorllewin Cymru.

"Mae na grwpiau bach wedi eu gweld dros yr haf yn y Fenai a tuag at Conwy," meddai Nia "a dani'n credu mai dod i gael bwyd maen nhw.

"Mae'n lyfli eu gweld nhw ond un peth rydyn ni'n poeni amdano fo ydy'r rhai pethau rydyn ni'n eu gweld ar y cyfryngau cymdeithasol o bobl yn mynd mewn cychod i chwilio amdanyn nhw - mae cychod fel Queen of the Sea yn gall ac yn gadael i'r dolffiniaid ddod atyn nhw - ond rydyn ni'n annog pobl i sbïo, ond i wneud hynny o bell yn hytrach na mynd atyn nhw."

Hefyd o ddiddordeb: