Y cyfrinachau tu ôl i luniau rhyfeddol o Gymru

  • Cyhoeddwyd
Y llwybr llaethog o gopa mynyddFfynhonnell y llun, Gareth Môn Jones

Dim ond pum mlynedd ar ôl dechrau ffotograffiaeth fel hobi mae plymar o Ynys Môn wedi ennill gwobr Ffotograffydd Tywydd y Flwyddyn y Royal Meterological Society.

Gareth Môn Jones sy'n dewis rhai o'i hoff luniau ac yn egluro sut mae'n llwyddo i ddal y golygfeydd - yn aml yng nghanol y nos ac ar ben mynydd.

Moel Siabod, uwchben y cymylau

Ffynhonnell y llun, Gareth Môn Jones

"Hwn enillodd y wobr. Pigyn Moel Siabod ti'n weld, ac mae wedi cael ei dynnu oddi ar Lliwedd ddiwedd mis Mawrth eleni. Wnaethon ni ddechrau - fi a mêt - o Pen-y-Pas tua 7.30pm a mynd am droed Crib Goch i drio cael llun o'r Wyddfa efo Orïon uwch ei ben o.

"Ar ôl awr roedd hi'n shambles efo'r cymylau yn dod i mewn felly wnaethon ni droi rownd a mynd am Lyn Llydaw.

"Roeddan ni'n cerdded trwy'r niwl ac wedyn gweld bod y cymylau ddim yn mynd llawer uwch a ddudon ni 'awn ni fyny dipyn bach eto'.

"Gynta' oeddan ni ar y Lliwedd, wow, roedda' chdi'n sbïo drosodd a gweld môr o gymylau. Roedd hi'n berffaith glir.

"Pan wnaeth y llun guro'r wobr yn Llundain roedd o'n nyts... o'n i'n sbïo ar fy hun bron fel out-of-body experience yn y seremoni - o'n i mewn cymaint o sioc."

Y Llwybr Llaethog o gopa'r Wyddfa

Ffynhonnell y llun, Gareth Môn Jones

"Y golau oren ti'n weld yn y gwaelod, golau Lerpwl ydi fan yna - dim yr haul.

"Nesh i drio tua pedair gwaith cyn cael hwn, cerdded i fyny i'r copa efo tua 35kg o stwff camera ac un neu ddwy botel o gwrw i gadw cwmpeini.

"Ti'n mynd fyny a chael dim byd. Mae'r forecast yn dweud bod o'n iawn ond ti jest yn gweld glaw o flaen dy lygaid. Ti jest yn gorfod ista wrth y caffi am gwpwl o oriau ac wedyn penderfynu - 'di hwn ddim yn clirio' a mynd.

"Ond ti'n gwybod bod y shot yna a pan ti'n cael llun fel yna ar ei ddiwedd, mae o werth o.

"Mae'r un llun yma wedi ei wneud allan o tua 34 o lunia... ti'n tynnu llun, troi'r camera rhyw 15 degrees, tynnu llun eto, troi o 15 degrees eto, tynnu llun, wedyn codi ongl y camera, tynnu llun - ac wedyn mae software ar y cyfrifiadur yn ei roi i gyd at ei gilydd."

Goleuadau'r gogledd, Penmon

Ffynhonnell y llun, Gareth Môn Jones

"Mae tynnu lluniau ac astrophotography wedi dechra' o weithio oriau hir fel plymar. Ro'n i'n arfer dechra' 7.30am a gorffan tua 5.30pm... wedyn o'n i'n mynd allan gyda'r nos. Tydi ffotograffiaeth ddim jest i'r dydd.

"O'n i'n mynd rownd yn tynnu lluniau cestyll yn y nos efo goleuadau arnyn nhw i mastro'r grefft o ddefnyddio'r camera yn y nos.

"Yn y dechra' o'n i'n reit frustrated ddim yn gwybod lle oedd bob dim ar y camera am bod hi'n dywyll. Felly o'n i'n mynd â camera efo fi i 'ngwely ac yn trio newid pethau fel yr aperature yn y tywyllwch.

"Fel yna nes i ddysgu sut i iwsio camera heb feddwl. Dwi erioed wedi bod mewn dosbarthiadau - gweld lot o stwff ar YouTube, a 'neud lot o mistêcs."

Canary Wharf, Llundain

Ffynhonnell y llun, Gareth Môn Jones

"Pan o'n i lawr yn Llundain i nôl y wobr nes i fynd ar drip ffotograffig fy hun - ges i drên i Canary Wharf. Pont ydi hwn o un ochr yr adeilad i'r llall.

"Mae rhywbeth reit sci-fi amdano. Dwi'n byw yn Sir Fôn a 'sgeno ni ddim buildings fel yna. Mae'n od, ti'n gweld pobl yn tynnu lluniau adeiladau a phobl a pan sgen ti ddim 'mynadd i dynnu lluniau mynydd eto, a ti eisiau change,ti'n meddwl 'faswn i wrth fy modd mynd i dynnu lluniau buildings'.

"Mae'n siŵr bod pobl Llundain yn teimlo vice versa. Mae be' ti'n methu dynnu yn apelio mwy i chdi weithiau."

Eryri dan eira, o gopa Moel Eilio

Ffynhonnell y llun, Gareth Môn Jones

"Roedd hwnna'n fore oer, ond menig a stôf efo chdi i gadw'n gynnes i gael panad a ti'n ok.

"Ffotograffiaeth sydd wedi gwneud i fi ddechrau cerdded.

"O'n i'n licio mynd am dro ond roedd y mynyddoedd yn dychryn fi i ddechrau - a mynd yn y nos... ti ychydig bach yn anxious be' sydd am ddigwydd - un slip ti isio, ac mae'n nos da - a ti ddim isio galw neb allan chwaith.

"Ond rhan fwya' o'r amser pan dwi'n tynnu llunia ella' dwi wedi cyrraedd cyn iddi fynd yn dywyll.

"Weithia dwi ar call drwy'r nos efo'r gwaith a dwi'n gwybod ga' i ddim call am tua 3.30 yn y bore felly goda i adeg hynny a mynd am Lyn Dywarchen yn gwybod ga' i rhyw awren neu ddwy cyn i neb arall godi."

Ffynhonnell y llun, Gareth Mon Jones
Disgrifiad o’r llun,

Gweithio ar systemau gwresogi ydi gwaith bob dydd Gareth Môn Jones

Plancton wedi goleuo, Penmon

Ffynhonnell y llun, Gareth Môn Jones

"Pan nes i weld y bioluminiescent yma gynta' doedd gen i ond yr hen gamera ac ati a nes i fethu'r chance i gael y shot yna lawr y traeth a meddwl wnâi byth weld o eto.

"Ond nes i fynd i Benmon drwy'r haf yma - bob nos am bedair wythnos, a disgwyl am y llun rhwng 11pm tan 3am.

"Roeddach chdi'n gweld dipyn fan yma a fan acw oedd yn rhoi hwb i chdi, meddwl 'mae o jest â dod i'r lan'.

"Ti'n gallu creu o dy hun drwy greu splashes, ond tydi o ddim yr un fath - o'n i eisiau llun mor naturiol â phosib do'n i ddim eisiau taflu cerrig i mewn. O'n i eisiau o jest yn tasgu ar y traeth."

Ynys Llanddwyn

Ffynhonnell y llun, Gareth Môn Jones

"Nes i ennill cystadleuaeth Countryfile efo llun o Landdwyn yn 2017 - ond i fi mae hwn yn llun gwell.

"Mae pobl yn gofyn i fi 'pam ti'n mynd i Landdwyn o hyd i dynnu llun?' a fydda' i'n deud 'dwi'n licio'r lle'. Mae gen i dyniad i'r lle.

"Mi gollais i 'nhad pan o ni'n 20 oed - 16 mlynedd yn ôl - a'i hoff olygfa fo oedd yr Eifl. Ac os ti'n eistedd yn y lle yma maen nhw'n goleuo ac maen nhw'n dod ag atgofion melys i fi. Dwi jest yn licio bod yna.

"Dwi 'di eistedd yna o'r blaen heb dynnu llun a jest hel meddylia. Os oes gen ti dynfa i rywle waeth i ti fynd a mynd â chamera efo chdi, ti byth yn gwybod be' gei di - ac mae pob machlud yn wahanol."

Hefyd o ddiddordeb: