Lluniau: Gŵyl Cerdd Dant 2019
- Cyhoeddwyd
Theatr y Ffwrnes yn nhref y Sosban oedd lleoliad Gŵyl Cerdd Dant Llanelli a'r Cylch 2019 ac roedd y ffotograffydd Betsan Haf Evans yno i ddal rhai o olygfeydd y diwrnod ar ein rhan.
Gallwch weld canlyniadau a chlipiau o'r cystadlu - o ganu i ddawnsio gwerin - ar gyfrif Twitter S4C o'r ŵyl, dolen allanol.

Ysgol Rhydaman yn joio rhwng y cystadlu

Yn ogystal â chanu a chystadlu roedd cyfle i wneud ychydig o siopa Nadolig yn yr ŵyl hefyd

Parti Ysgol Gyfun Gŵyr yn barod i gystadlu yn rhagbrofion y llefaru uwchradd, coleg neu agored

Y beirniad Carys Wyn Davies yn gwrando'n astud ar barti llefaru

Trydydd cenhedlaeth o Ddawnswyr Talog yn cefnogi eu mamau

Un hwb olaf gan yr hyfforddwraig Delyth Mai Nicholas cyn i grŵp llefaru Merched Tawe fynd i'r rhagbrawf

Amser cino i'r cyflwynydd Mari Grug oedd yn un o arweinwyr llwyfan yr ŵyl

Hefyd o ddiddordeb:


Roedd yn ddiwrnod prysur i'r cyfeilyddion Dylan Cernyw a Gwenan Gibbard

Mascot stondin Menter Cwm Gwendraeth

Paratoadau munud olaf i gystadleuwyr Ysgol Gyfun Gŵyr cyn rhagbrawf y parti dawns agored

Rhaid gwneud yn siŵr fod pawb yn edrych ei orau!

Cyfle prin i'r cyflwynydd Trystan Ellis-Morris wneud ychydig o siopa rhwng lincs teledu

Moment chwerw-felys i Ann Williams (chwith) wrth i Karen Grayson-Cooper (canol) a Mavis Roberts (dde) o Ddawnswyr Tawerin dderbyn tlws dawns y gystadleuaeth am ddawns a gyfansoddwyd fel teyrnged i'w gŵr, Dai Williams

Rachel Bidder, cyfeilydd grŵp llefaru Merched Tawe

Golwg brenhinol iawn ar Erwan Teifi