Lluniau: Gŵyl Cerdd Dant 2018
- Cyhoeddwyd
Cyfle i gael blas ar yr ysbryd tu ôl i'r llwyfan yn yr Ŵyl Cerdd Dant gafodd ei chynnal ddydd Sadwrn ym Mlaenau Ffestiniog.

Dwy aelod ifanc o barti dawns oedran cynradd, Parti Gwydir


Ymlwybro drwy'r glaw i'r ŵyl...


"Jest aros yn llonydd..."


"R'un sbit!"


Rhai o ddawnswyr ifanc Dawnswyr Penrhyd, Rhydaman, ddaeth yn fuddugol yn y gystadleuaeth Parti Dawns Oedran Cynradd.


"Jest hongian mas, yn ein gwisgoedd traddodiadol Cymreig..."


Taro tant.


Bawd lan gan ddisgyblion Ysgol O.M. Edwards, Llanuwchllyn.


"Sbiwch rŵan!"


Mae'n grêt i fod yn aelod o Aelwyd Chwilog ac ennill yn y grŵp llefaru oedran cynradd


Mae'n bwysig bod y stiwardiaid yn cadw trefn ar y pobl S4C 'ma tu cefn llwyfan.




Chi'n aros misoedd am rywun i lanhau'r simne... ac wedyn mae pedwar yn dod heibio ar unwaith.


Gwenwch! Dawnswyr Talog, ddaeth yn gyntaf yn y Parti Dawns Agored.


Cythrel canu?


Hwyl fawr tan y flwyddyn nesa'

Hefyd ar Cymru Fyw: