Cyfrifiad 2021: 'Lleiafrifoedd ethnig yn cael eu hanghofio'

Mae 'na bryder bod lleiafrifoedd ethnig yn cael eu hanghofio wrth i'r Cyfrifiad nesaf gael ei gynnal yn 2021.

Unwaith eto, fydd 'na ddim opsiwn i ddatgan eich bod chi'n Gymro neu'n Gymraes o gefndir ethnig lleiafrifol.

Wrth siarad â Newyddion 9, mae'r gantores Kizzy Crawford yn dweud iddi gael ei synnu gan y prinder opsiynau yn ffurflen ddrafft y Cyfrifiad.

Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy'n gyfrifol am y Cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, eu bod wedi ymgynghori gyda'r cyhoedd wrth benderfynu ar y cwestiynau.