Cyfrifiad yn 'anghofio' Cymry o gefndir ethnig lleiafrifol

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Kizzy Crawford: 'Lleiafrifoedd ethnig yn cael eu hanghofio'

Mae 'na bryder bod lleiafrifoedd ethnig yn cael eu hanghofio wrth i'r Cyfrifiad nesaf gael ei gynnal yn 2021.

Unwaith eto, ni fydd opsiwn i ddatgan eich bod chi'n Gymro neu'n Gymraes o gefndir ethnig lleiafrifol.

Wrth siarad â Newyddion 9, mae'r gantores Kizzy Crawford yn dweud iddi gael ei synnu gan y prinder opsiynau yn ffurflen ddrafft y Cyfrifiad.

Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy'n gyfrifol am y Cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, eu bod wedi ymgynghori gyda'r cyhoedd wrth benderfynu ar y cwestiynau.

'Poeni am gael fy nerbyn fel Cymraes'

"Am flynyddoedd nawr, pryd bynnag fi wedi gwneud ffurflenni fel hyn, lle mae rhaid i fi roi pwy ydw i - nationality fi, mae byth wedi bod opsiwn sy'n iawn i fi," meddai Kizzy Crawford.

"Sai byth wedi gweld rhywbeth sy'n cyfeirio ata' i. Fi wastad wedi rhoi lawr mixed neu mixed British ond dyw hwnna ddim yn accurate. Dwi'n cysidro fy hun fel Cymraes.

"Dwi wastad wedi teimlo fel bod pobl ddim yn derbyn fi fel Cymraes oherwydd lliw fy nghroen. Mae pethau fel hyn jyst yn cadarnhau hwnna.

"Achos fi wastad wedi poeni am bobl yn meddwl bod fi'n Seisnig neu bobl yn meddwl bod fi'n methu siarad Cymraeg oherwydd sut fi'n edrych. Dwi'n meddwl bod pethau fel hyn ddim yn helpu hwnna o gwbl."

Disgrifiad o’r llun,

Kizzy Crawford: 'Dwi'n cysidro fy hun fel Cymraes'

Pan fydd pobl Cymru yn llenwi'r Cyfrifiad ymhen dwy flynedd, yn ôl fersiwn ddrafft y ffurflen, bydd blwch i bobl sy'n wyn nodi eu bod yn cyfri'u eu hunain yn Gymreig, Seisnig, Albanaidd, Gogledd Wyddelig neu Brydeinig.

Ond ar gyfer grwpiau eraill, does 'na ddim blwch sy'n cynrychioli'r bobl hynny sydd eisiau cyfrif ei hunain yn Gymry - dim ond fel Prydeinwyr.

Mae'r cwestiwn sy'n cael ei cynnig yn Yr Alban yn wahanol, gyda modd i leiafrifoedd ethnig dicio blwch yn nodi os ydyn nhw'n Brydeinig, Albanaidd neu fel arall.

'Ddim yn dderbyniol'

Mae Cyngor Gwynedd wedi ysgrifennu at y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn gofyn am ail-ystyried y categorïau.

"Mae'n ofnadwy o bwysig bod nhw yn ail-feddwl y cwestiwn yma," meddai'r Cynghorydd Nia Jeffreys, sydd ar Gabinet Cyngor Gwynedd.

"Fel mae o wedi ei eirio ar y funud, efo dim ond y dewis o ddu Prydeinig neu Brydeinig Asiaidd, mae o fel bod o yn gorfodi pobl i wneud y dewis rhwng bod yn Gymry neu fod yn ddu neu'n Asiaidd.

"Dydy hwnna ddim yn dderbyniol o gwbl."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys nad oedd y sefyllfa yn dderbyniol

Yn siarad yn y Cynulliad ddydd Mawrth, dywedodd un o weinidogion Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, ei bod yn cytuno nad yw'r Cyfrifiad yn "gynhwysol i bob aelod o gymdeithas sy'n ystyried eu hunain yn Gymry ond sydd ddim yn wyn".

Dywedodd bod y llywodraeth wedi codi'r mater gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ers tro.

Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol y bydd modd i bobl nodi eu hunaniaeth fel maen nhw'n dymuno.

Dywedodd llefarydd: "Rydym wedi ymgysylltu yn eang â defnyddwyr yng Nghymru, ac rydym yn cynnig bod unrhyw un sydd am nodi eu bod yn 'Gymraeg' hefo categori arall (gan gynnwys 'Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig', a 'Du, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd') yn gallu gwneud hynny trwy gwblhau un o'r opsiynau ysgrifenedig."