Oriel luniau: Welsoch chi'r machlud trawiadol wythnos yma?
- Cyhoeddwyd

Ynys Enlli o'r tir mawr
O'r de i'r gogledd, roedd machlud trawiadol ar draws Cymru neithiwr a nifer fawr o Gymry - boed yn eu gwaith neu'n hamddena - wedi cofnodi'r achlysur gyda'u camerau.


Y ffotograffydd Iolo Penri dynnodd y llun yma drwy ffenest yn edrych dros Gastell Bach, Caernarfon

Nid pob swyddfa sydd efo golygfa cystal â hon - llun wedi ei dynnu o swyddfa cwmni Delwedd yn Noc Fictoria, Caernarfon

Tydi golygfa 360º o swyddfa awyr agored warden newydd Ynys Enlli ddim yn rhy ffôl chwaith

Yr Afon Mawddach yn llyncu'r haul rhwng Y Bermo a Dolgellau

Y goleuadau traffig yr un lliw a'r awyr yn Llwyngwril, Meirionnydd

Goleuo'r ffordd wrth gerdded y ci ym Men'rallt, Machynlleth...

...a'r olygfa tu hwnt i'r goedwig

Yn Aberystwyth, roedd yr awyr coch yn rhoi naws iasol i'r gofeb rhyfel

Yr un machlud, ond yng Nghaerfyrddin - a'r olygfa tu allan i swyddfa Carwyn Tywyn uwchben yr Afon Tywi yng Nghaerfyrddin

Hefyd o ddiddordeb: