Y dyn sy'n cerdded i gopa'r Wyddfa, waeth beth ydi'r tywydd
- Cyhoeddwyd
Tra bod eira trwm yn esgus da i'r rhan fwyaf o bobl beidio mentro i'r gwaith, fel arall mae hi i Stephen Jones. Mae o'n gorfod cerdded i gopa'r Wyddfa ymhob tywydd drwy'r gaeaf i adael i bawb arall wybod pa mor berygl ydi'r mynydd.
Ac ar sail ei adroddiadau o, fydd pobl eraill yn penderfynu a ddylid mentro allan yn yr eira a'r rhew.
Bydd yn mynd i'r copa unwaith yr wythnos rhwng Tachwedd ac Ebrill - a ddwywaith yr wythnos am dri mis yn y gaeaf - fel rhan o'i gytundeb gyda Pharc Cenedlaethol Eryri er mwyn gadael i'r cyhoedd wybod beth yw'r amodau dan draed ac oes risg o eirlithrad (avalanche).
Ac mae'r dyn o Dregarth, ger Bethesda, yn chwilio am gliwiau i geisio darganfod lle mae'r perygl.
"Y peth efo eira ydi mae o'n newid - o'r adeg mae o'n dechrau ffurfio ac yn disgyn i lawr.
"Wedyn pan mae o'n hitio tir mae bob dim fel tymheredd a gwynt yn effeithio sut mae eira'n newid ar y tir dros amser.
"Os wyt ti'n cael lot o eira mewn amser weddol fychan tydi o ddim yn cael amser i lynu at ei gilydd fel byddai o os ti'n cael cyfnod cynnes, wedyn oer, wedyn cynnes ac oer eto. Fel yna mae o'n meddalu ac mae bob dim yn sugno at ei gilydd.
"Ond os dydi hynny ddim yn digwydd a ti'n cael lot o eira mewn cyfnod bychan ti'n cael wind slab - a dyna sy'n beryg efo avalanche."
Pan mae hyn yn digwydd mae'r risg o eirlithrad yn uwch wrth i'r haenau ddatgymalu a llithro i lawr y llethr.
Gan amlaf, ar hyd un o lwybrau o Pen-y-Pas fydd Stephen Jones yn cerdded i'r copa.
Ar y ffordd bydd yn asesu lefel yr eira, y math o eira sydd ar y llethrau a pha mor llithrig ydi'r llwybrau dan draed.
Bydd hefyd yn tyllu i mewn i'r eira er mwyn gweld pa mor sefydlog ydi'r gwahanol haenau.
Peryglon cudd
Ar ôl chwe awr, mae o yn ôl ym Mhen-y-Pas ac ar ei ffordd adra i ysgrifennu adroddiad i'r a parc fydd yn cael ei rannu â'r cyhoedd.
Dywed Stephen Jones - sy'n gweld o leiaf hanner cant o bobl ar y mynydd bob tro mae'n mynd allan dros y gaeaf - bod rhai peryglon yn anodd eu gweld.
Ac mae'r ardaloedd perygl yn gallu symud dros nos os ydi cyfeiriad y gwynt yn newid ac yn chwythu'r eira o un llethr i un arall.
"Yn ddiweddar 'da ni wedi cael barrug dros y llwybrau sy'n beryclach nag eira mewn ffordd i bobl sy'n mynd achos tydi nhw ddim yn edrych amdano a gei di sheet tenau o farrug a ti ddim yn ei weld o.
"Gei di farrug ar lefelau isel hefyd."
Cerdded mynyddoedd Dyffryn Ogwen a physgota ei lynnoedd oedd diddordebau Stephen Jones pan yn hogyn ifanc.
Ar ôl cyfnod yn y Royal Marines fe weithiodd yn y diwydiant gweithgareddau awyr agored cyn sefydlu Anelu, cwmni sy'n tywys pobl o amgylch mynyddoedd Cymru.
Ac er mwyn cadw'n ddiogel mae'n pwysleisio bod angen nid yn unig y cyfarpar a'r hyfforddiant perthnasol, ond y profiad i wybod pryd i beidio mynd allan neu addasu cynlluniau.
"Fy ngwaith i ydi mynd allan mewn amodau heriol felly dwi'n fwy na pharod i wneud hynny, ac mae bob dim yn ei le i wneud hynny.
"Mae gen i'r wybodaeth, profiad a chymwysterau iawn, a systemau yn y cefndir i edrych ar fy ôl i - ond faswn i byth yn camu dros y llinell lle mae diogelwch fi'n cael ei amharu o ddifri'.
"Y risg mwyaf sydd gen i ydi avalanche - ac os ydi llethrau un llwybr yn rhy ddrwg, wna i ddewis llwybr arall.
"Ond o ran y tywydd dros y gaeaf hyd yma, mae o wedi bod yn ocê. Ond mae ocê fi yn wahanol i ocê pobl eraill."