Rhys Patchell: Alun Wyn Jones yn gawr o ddyn

Mae Rhys Patchell wedi canmol ei gapten rhyngwladol, Alun Wyn Jones wedi iddo gipio Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2019.

Enillodd Jones, 34, y bleidlais gyhoeddus wedi iddo arwain Cymru i Gamp Lawn yn y Chwe Gwlad, cyn iddo gael ei enwi'n chwaraewr y gystadleuaeth.

Fe arweiniodd y clo ei wlad i rownd gynderfynol Cwpan Rygbi'r Byd yn Japan hefyd.

Yn ystod 2019 hefyd, fe enillodd Jones gap rhif 134 dros ei wlad - sy'n record.

Dywedodd Patchell y byddai hanes rygbi Cymru yn cofio Jones "fel un o'r goreuon, yn sicr".