Alun Wyn Jones i osod record capiau yn erbyn Lloegr
- Cyhoeddwyd
Bydd Alun Wyn Jones yn hawlio ei le fel y chwaraewr o Gymru sydd â'r nifer fwyaf o gapiau rhyngwladol wrth iddo arwain y tîm yn erbyn Lloegr yn Twickenham ddydd Sul.
Fe fydd y clo 33 oed yn chwarae yn ei 135ain gêm ryngwladol - 126 i Gymru a naw i'r Llewod.
Dim ond y prop, Gethin Jenkins sydd â mwy o gapiau dros Gymru - 129 - sydd hefyd â pum cap dros y Llewod.
Bydd y gêm, sy'n rhan o'r paratoadau ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd yn Japan, yn dechrau yn Twickenham am 14:00 ddydd Sul.
Fel rhan o'u paratoadau bydd Cymru'n herio Lloegr ac Iwerddon ddwywaith yr un, cyn iddyn nhw chwarae eu gêm agoriadol yng Nghwpan y Byd yn erbyn Georgia ar 23 Medi.
Awstralia, Fiji ac Uruguay yw'r timau eraill yn y grŵp.
Bydd Jones yn arwain tîm cyfarwydd ddydd Sul, gyda Warren Gatland yn dewis tîm profiadol i herio'r hen elyn.
Gareth Anscombe sy'n dechrau fel maswr, gyda Gareth Davies yn fewnwr a Dan Biggar ar y fainc.
Yn dilyn y newyddion y bydd Taulupe Faletau yn colli Cwpan y Byd gydag anaf, Ross Moriarty fydd yn parhau fel wythwr, gyda Justin Tipuric ac Aaron Wainwright yn flaenasgellwyr.
Nicky Smith, Ken Owens a Tomas Francis fydd yn y rheng flaen, gydag Adam Beard yn bartner i Jones yn yr ail reng.
Tîm Cymru
Liam Williams; George North, Jonathan Davies, Hadleigh Parkes, Josh Adams; Gareth Anscombe, Gareth Davies; Nicky Smith, Ken Owens, Tomas Francis, Adam Beard, Alun Wyn Jones (C), Aaron Wainwright, Justin Tipuric, Ross Moriarty.
Eilyddion: Elliot Dee, Wyn Jones, Dillon Lewis, Jake Ball, Aaron Shingler, Tomos Williams, Dan Biggar, Owen Watkin.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Awst 2019
- Cyhoeddwyd10 Mai 2017
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2019