Ffans cerddoriaeth Gymraeg ar draws y byd yn dathlu #DyddMiwsigCymru
O'r Eidal i Norwy, mae rhai o ddilynwyr cerddoriaeth Gymraeg o dros y byd wedi anfon neges at BBC Cymru Fyw i ddathlu Dydd Miwsig Cymru 2020.
Yn eu mysg mae'r casglwr recordiau László Záhonyi o Hwngari sy'n chwarae cerddoriaeth Gymraeg drwy'r dydd ar Chwefror 7 yng nghaffi Három Holló yn Budapest.
Mae'r caffi wedi newid ei enwi i Y Tair Cigfran am y dydd ac yn cynnig arwyddion a bwydlen dwyieithog i gyd-fynd â'r gerddoriaeth Gymraeg. Felly os ydych chi ym Mudapest ewch draw am wledd!
Yn ogystal â László, yn y fideo mae Lara o Wlad y Basg, Gisella o Turin yn yr Eidal, David o'r Alban a Preben o Norwy yn datgelu eu hoff gân Gymraeg a pham iddyn nhw syrthio mewn cariad gyda cherddoriaeth Gymraeg.
Hefyd o ddiddordeb: