Dathlu Dydd Miwsig Cymru am y pumed tro
- Cyhoeddwyd
Bydd Dydd Miwsig Cymru yn cael ei gynnal am y pumed tro ddydd Gwener, gyda digwyddiadau lu i ddathlu'r achlysur.
Bydd dros 20 o gigs yn cael eu cynnal, a bydd y nifer fwyaf erioed o recordiau arbennig yn cael eu rhyddhau gan artistiaid a labeli, gan gynnwys cyfanswm o 13 sengl a dwy albwm, un ohonyn nhw sydd ar gael ar feinyl yn unig.
Dywedodd y trefnwyr fod y diwrnod yn rhan o'r weledigaeth hirdymor o weld miliwn o bobl yn siarad ac yn defnyddio'r Gymraeg erbyn 2050.
Maen nhw'n ystyried cerddoriaeth Gymraeg fel adnodd i ddysgwyr yr iaith, drwy ddefnyddio geiriau'r caneuon i ychwanegu at eu geirfa.
Mae Ruth Jones, awdures ac actores ar y gyfres Gavin and Stacey, wedi bod yn defnyddio caneuon Cymraeg i'w helpu i ddysgu'r iaith.
Dywedodd: "Mae miwsig yn arf addysgu pwerus, ac mae'n hwyl. Rydych chi'n cysylltu â chân heb wybod beth yw ystyr y geiriau. Ac yna dwi'n mynd i chwilio beth yw ystyr gair."
Fe wnaeth Lars Kretschmer, sy'n wreiddiol o Großräschen yn yr Almaen, glywed cerddoriaeth y Super Furry Animals am y tro cyntaf pan oedd yn ei arddegau, a phenderfynu dysgu mwy am y Gymraeg.
Wedi clywed aelodau'r band yn siarad yr iaith ar orsaf radio yn yr Almaen ym 1996, penderfynodd ei dysgu.
Aeth Lars ati i ddilyn cwrs dysgu Cymraeg yn yr Almaen yn gyntaf, a bu'n mwynhau dosbarthiadau nos wythnosol gyda thiwtor Cymraeg mewn coleg i oedolion yno.
Daeth i Gymru i fyw am y tro cyntaf yn 2010. Erbyn hyn mae Lars yn byw yn Saltney Ferry ger Caer, ac yn mynychu cwrs Lefel Uwch yn Wrecsam bob nos Lun.
Caiff y cwrs ei drefnu gan Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain, a'i redeg ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, gan Goleg Cambria.
"Dwi wrth fy modd gyda cherddoriaeth o bob math," meddai Lars, "ond pan wnes i glywed caneuon y Super Furries am y tro cyntaf, a chlywed aelodau'r band yn siarad iaith nad oeddwn i hyd yn oed yn gwybod oedd yn bodoli, ro'n i eisiau dysgu mwy amdanynt, am eu cerddoriaeth, ac am y Gymraeg."
Mae'n parhau i fwynhau cerddoriaeth Gymraeg o bob math gan deithio i weld cerddorion fel Gruff Rhys, Gareth Bonello, Georgia Ruth a Bitw yn canu'n fyw mewn lleoliadau ar draws Cymru.
Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru hefyd yn lansio ymgyrch ar Ddydd Miwsig Cymru, sef ymgyrch #Poster2020.
Mae'r llyfrgell yn apelio ar sefydliadau, trefnwyr a chasglwyr i'w cynorthwyo i greu casgliad o bosteri gigs a gwyliau cerddorol Cymraeg er mwyn cofnodi "hanes a diwylliant Cymru a'r Sîn Roc Gymraeg ar draws y degawdau".
Yr Archif Gerddorol Gymreig sy'n arwain yr ymgyrch a dywedodd eu rheolwr rhaglen, Nia Mai Daniel eu bod yn "parhau i adeiladu ar y casgliad ac yn ceisio adnabod bylchau wrth gasglu".
Yn ogystal â phentwr o ddigwyddiadau cerddorol ar draws Cymru ac yn Ninas Gerdd UNESCO, sef Lerpwl, bydd caffi Három Holló yn Budapest yn mabwysiadu enw Cymraeg am y dydd ac yn croesawu cwsmeriaid gyda miwsig Cymraeg, arwyddion dwyieithog a bwydlen ddiodydd arbennig ddwyieithog, yn Gymraeg a Hwngareg.
Cafodd y diwrnod arbennig o ailfrandio ei drefnu gan y ffan o fiwsig Cymraeg a'r casglwr recordiau, László Záhonyi, mewn partneriaeth â chanolfan wybodaeth Cymru-Hwngari, Magyar Cymru.
Y nod yw codi ymwybyddiaeth o iaith a sîn miwsig unigryw Cymru ymhlith pobl Hwngari, a pharhau i godi pontydd rhwng y ddwy wlad.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Llynedd, ymunodd dros 300 o ysgolion Cymru yn yr hwyl, ac eleni bydd disgo yn ymweld â Latch, elusen canser plant yng Nghaerdydd, er mwyn gwneud yn siŵr nad oes neb yn colli allan ar y dathliadau eleni.
Dywedodd Huw Stephens, DJ ar Radio Cymru, Radio 1 a 6Music, a llysgennad Dydd Miwsig Cymru: "Mae wedi bod yn flwyddyn anhygoel i fiwsig Cymraeg.
"Nid yn unig y ffaith mai heddiw yw'r Dydd Miwsig Cymru mwyaf hyd yma, ond yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae artistiaid fel Adwaith, HMS Morris a The Joy Formidable wedi mynd â'u sŵn dramor i gynulleidfaoedd newydd sydd bellach yn ymddiddori yn yr iaith."
Mae rhestrau chwarae Dydd Miwsig Cymru - sydd wedi cael eu curadu'n arbennig - yn cynnwys genres amrywiol o fiwsig acwstig i electronig, ar gael ar Spotify, Apple Music, Amazon a gwasanaethau ffrydio eraill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2019