Cymru'n debygol o 'ddilyn yr un patrwm' â Sbaen a'r Eidal

Mae Mark Drakeford wedi dweud wrth Newyddion S4C y bydd yr argyfwng coronafeirws yn debygol o waethygu eto yng Nghymru cyn gwella.

Cyfaddefodd y Prif Weinidog fod y wlad yn debygol o "ddilyn yr un patrwm" â Sbaen a'r Eidal dros yr wythnosau nesaf, gyda nifer yr achosion a marwolaethau yn parhau i gynyddu.

"Ond ar ôl hynny, os ni'n dal ati i wneud popeth ni'n 'neud yn barod, 'dwi'n meddwl ni'n gallu gweld pethau'n gwella," meddai.