Mark Drakeford: Cymru ar y trywydd i drechu coronafeirws
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru "ar y trywydd" i drechu coronafeirws, yn ôl y Prif Weinidog Mark Drakeford.
Wrth siarad mewn cynhadledd i'r wasg yng Nghaerdydd, dywedodd fod y cyfyngiadau ar fywyd dydd-i-ddydd yn cael effaith wrth arafu lledaeniad y feirws.
"Nid nawr yw'r amser i slacio nac i stopio gwneud yr hyn sy'n gwneud gwahaniaeth - aros adref, osgoi teithio diangen a chadw pellter diogel i ffwrdd o'n gilydd," meddai.
Ond fe gyfaddefodd Mr Drakeford mewn cyfweliad â Newyddion S4C y byddai nifer y marwolaethau yn parhau i gynyddu, ac y gallai'r patrwm ddilyn yr hyn sydd wedi'i weld yn Sbaen a'r Eidal.
'Gwaethygu cyn gwella'
Ddydd Gwener fe wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi bod 24 arall wedi marw ar ôl cael y feirws yn y 24 awr ddiwethaf, gan ddod â'r cyfanswm i 141.
Cafodd 345 o achosion newydd eu cadarnhau hefyd, sy'n golygu bod 2,466 o bobl yng Nghymru wedi cael prawf positif am Covid-19.
Dywedodd Mr Drakeford wrth y gynhadledd: "Rwy'n credu bod ein gweithredoedd ni yn gwneud gwahaniaeth, ond ni fyddwn yn gweld yr effaith hynny yn syth.
"Yn anffodus, bydd y sefyllfa'n gwaethygu cyn gwella. Mae mwy o bobl yn parhau i gael y feirws ac mae mwy o fywydau'n cael eu colli.
"Mae'r llwybr at y fuddugoliaeth, y llwybr at adfer, yn cael ei adeiladu gennym ni oll."
Wrth siarad â Newyddion S4C yn ddiweddarach, fe gyfaddefodd y prif weinidog y byddai nifer yr achosion a marwolaethau yn parhau i godi fodd bynnag, a bod hynny'n "drist dros ben".
"[Ond] mae nifer y bobl sy'n dal y feirws heddiw yn y gymuned yn llai nag oedd e cyn i bethau ddod i fewn," meddai.
Er hynny fe gyfaddefodd y byddai'r patrwm yn parhau i fod yn debyg i wledydd fel Yr Eidal a Sbaen am y tro.
"Dros y mis nesaf ni yn mynd i ddilyn yr un patrwm - ni'n mynd i weld nifer y bobl sy'n dioddef... yn tyfu.
"Mae hwn yn mynd i fod yn gyfnod anodd - anodd i bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth, anodd i deuluoedd hefyd.
"Ond ar ôl hynny, os ni'n dal ati i wneud popeth ni'n 'neud yn barod, 'dwi'n meddwl ni'n gallu gweld pethau'n gwella."
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Fe wnaeth Mr Drakeford feirniadu Llywodraeth y DU am beidio cysylltu gyda Llywodraeth Cymru cyn gwneud cyhoeddiad y bydd rhagor o brofion Covid-19 ar gael erbyn diwedd y mis.
Doedd y cyhoeddiad ddydd Iau ddim yn ei gwneud yn amlwg a oedd yn berthnasol ar gyfer y DU gyfan ynteu Lloegr yn unig.
Fe wnaeth gweinidogion Llywodraeth y DU egluro'n ddiweddarach mai ar gyfer Lloegr yn unig oedd y cyhoeddiad, cyn i Downing Street ddweud ddydd Gwener ei fod ar gyfer y DU gyfan.
Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn deall fod yna bwysau i weithredu'n gyflym, ond bod cyhoeddiadau o'r fath yn "achosi dryswch".
"Eglurder sy'n bwysig, a'u gwirio er mwyn sicrhau bod y ffigyrau sy'n cael eu cyhoeddi yn gywir, fel y gall bobl ddibynnu arnyn nhw," meddai.
Targed o 9,000 prawf y dydd
Dywedodd Mr Drakeford wrth y gynhadledd ddydd Gwener bod 1,100 o brofion coronafeirws yn cael eu cynnal pob dydd yng Nghymru ar hyn o bryd, ac y bydd hynny'n cynyddu i 5,000 y dydd erbyn canol y mis.
Ychwanegodd mai'r gobaith erbyn diwedd Ebrill yw y bydd tua 9,000 o brofion yn cael eu cynnal pob dydd.
Roedd y Llywodraeth yn gobeithio cyrraedd y targed o 9,000 o brofion pob dydd yn gynt, cyn i gytundeb gyda chwmni Roche ddymchwel, gyda Mr Drakeford yn dweud mai'r cwmni o'r Swistir wnaeth dynnu 'nôl o'r cytundeb.
Ychwanegodd y Prif Weinidog y bydd y canllawiau i bobl sydd ddim yn rhannu'r un cartref gadw dau fetr i ffwrdd o'i gilydd yn cael ei wneud yn gyfraith.
Dywedodd Mr Drakeford mai'r nod yw sicrhau bod cyflogwyr yn "gwneud anghenion eu gweithlu yn flaenoriaeth".
Ychwanegodd y bod y mwyafrif o fusnesau yn cydymffurfio, ond bod rhai gweithwyr yn "ofnus" yn mynd i'r gwaith.
Bydd y gyfraith newydd yn cael ei gwneud yn weithredol yr wythnos nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2020