Oriel fy milltir sgwâr: Pontarddulais
- Cyhoeddwyd

Yn ystod y cyfnod cloi mae Cymru Fyw wedi gwahodd ffotograffwyr i rannu delweddau o'u milltir sgwâr.
Dyma oriel o luniau diweddar gan Betsan Haf Evans, Celf Calon, ym Mhontarddulais. Mae hi wedi bod yn tynnu lluniau er mwyn cefnogi ymgyrch Tarian Cymru i godi arian i brynu offer gwarchodol i weithwyr iechyd a gofal yng Nghymru.

"Ar ddiwrnod VE roeddwn i yn eistedd yn yr ardd yn ac yn clywed pobl yn dathlu yn y pellter.
"Penderfynais fynd am wâc o gwmpas Pontarddulais gyda fy nghamera i ddogfennu beth oedd yn mynd ymlaen ar strydoedd y diwrnod hwnnw."

Nodi diwrnod VE
"O fan hyn ddaeth y syniad i gynnig lluniau wrth y drws am rodd tuag at Tarian Cymru. Mae wedi bod yn grêt gallu helpu'r achos trwy ddefnyddio fy sgiliau ac i ddogfennu'r cyfnod hwn."

Teulu Morgan

Y teulu Wheatle
"Yn anffodus, oherwydd coronafeirws rwyf wedi colli'r holl waith a oedd wedi ei drefnu yn y misoedd nesa. Ond mae'r 'lluniau wrth y drws' yn gwneud byd o les i mi wrth fynd o gwmpas ar fy meic."

Enfys ar ddrws y teulu Price ar flaen y tŷ

Teulu'r Griffs
"Dwi'n gwybod taw tynnu lluniau o bobl yw fy moddhad mwyaf, ond mae hefyd wedi gwneud i fi sylweddoli faint o les mae rhyngweithio gyda phobl yn ei wneud."

Ci teulu'r Boyd-Roberts ar y stepen ddrws

Y teulu Evans o flaen y tŷ

Mae'r 'lluniau wrth y drws' wedi gwneud byd o les iddi meddai Betsan
Hefyd o ddiddordeb