Lluniau: Portread o gymdogion ar stepen y drws
- Cyhoeddwyd
Mae'r ffotograffydd Katie Barrett wedi troi'r cyfnod lle mae gofyn i bobl aros yn eu cartrefi yn gyfle i ddogfennu bywyd ei chymdogion a'i chymuned yn Ystum Taf, Caerdydd, lle mae wedi byw ar hyd ei hoes.
Gyda phandemig Covid-19 yn dod â'i gwaith arferol mewn priodasau a digwyddiadau haf i ben yn sydyn, roedd hi'n colli mynd allan i dynnu lluniau.
Felly ar ôl tynnu llun ei ffrind tu allan i'w thŷ yn dathlu ei phen-blwydd yn 40, penderfynodd ddal ati wrth fynd am ei thro dyddiol.
"O'n i'n colli tynnu lluniau ond hefyd fi'n hoffi mynd allan i gerdded a mynd ar y beic. So oni'n meddwl bydde fe'n lyfli gallu mynd rownd, tynnu lluniau o bobl yn eu tai nhw, yn y ffenest, wrth y drws neu yn yr ardd ffrynt, jyst i neud rhywbeth neis iddyn nhw a'r un pryd rhoi cyfle i fi fynd allan, cael ymarfer corff a cael chat neis 'da pobl.
"Fi 'di cwrdd â lot o bobl neis sydd 'di bod yn byw o amgylch fan hyn ers blynyddoedd a fi di cael lot o chats am beth oedd e fel yn yr hen ddyddiau," meddai Katie.
Mae pobl bellach yn cysylltu i ofyn i Katie ddod i dynnu eu llun: naill ai pobl sydd eisiau cofnod o'u hunain a'u teulu yn ystod y cyfnod rhyfeddol yma neu bobl sydd eisiau nodi pen-blwydd neu achlysur arbennig, fel John a Janet oedd yn dathlu 28 mlynedd o briodas.
"Fi'n cael lot o bobl gwahanol yn cysylltu, pobl sydd jyst moyn cofnodi'r cyfnod yma achos mae'n gyfnod mor od a rhai pobl sy'n dathlu pethau a moyn marcio hwnna.
"Mae'n rhoi cyfle i gofnodi'r amser yma, achos ni byth yn mynd i gael hwn eto," meddai Katie.
"Hefyd mae'n torri lan y diwrnod, mae'n rhoi cyfle i bobl wisgo - dim gwisgo lan, ond newid allan o'u pyjamas nhw a rhoi colur 'mlaen!"
Mae Katie yn tynnu'r lluniau gyda lens hir o'r pafin a ddim ond yn mynd o fewn 20 munud i'w chartref yn ardal Ystum Taf, Eglwys Newydd a Llandaf.
Mae nifer o neiniau a theidiau yn methu eu hwyrion meddai Katie, pobl fel Carole a Peter sy'n byw yn agos at eu pedair merch a'u teuluoedd yn Ystum Taf. Fe dynnodd Katie luniau o'r holl deulu yn eu gwahanol gartrefi cyfagos.
"Pryd fi'n gofyn i bobl beth maen nhw'n ei hoffi o ran beth sydd wedi dod allan o hwn y peth cyntaf mae'r rhan fwyf o bobl wedi sôn amdano yw'r ysbryd cymunedol a sut maen nhw wedi dod i adnabod eu cymdogion nhw," meddai Katie.
"Fi'n credu mai rhywbeth da sy'n dod allan o'r sefyllfa yma yw bod hwnna yn cadw lan a bod pobl yn cadw mewn cysylltiad."
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
DYSGU: Gwersi dyddiol Bitesize
Hefyd o ddiddordeb: