Diffyg gofod agored 'yn rhwystredig' yn y cyfnod clo

Yn ôl Comisiwn Dylunio Cymru mae'r pandemig Covid-19 wedi dangos nad oes digon o lefydd preifat tu fas mewn datblygiadau preswyl.

Dywedodd y comisiwn ei bod hi'n debygol iawn y gwelwn ni newid mewn dyluniad ardaloedd cyhoeddus yn y dyfodol.

Mae Daniel Griffiths yn un o'r rheiny sy'n rhannu'r "rhwystredigaeth" nad oes gofod agored iawn i'w gael yn ei fflat yng Nghaerdydd.