Pandemig yn dangos gwendidau cynllunio cartrefi newydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r pandemig Covid-19 wedi dangos nad oes digon o lefydd preifat tu fas mewn datblygiadau preswyl, yn ôl Comisiwn Dylunio Cymru.
Dywedodd y comisiwn ei bod hi'n debygol iawn y gwelwn ni newid mewn dyluniad ardaloedd cyhoeddus yn y dyfodol.
Mae Daniel Griffiths wedi bod yn byw yn ei fflat yng Nghaerdydd gyda'i gariad ers rhyw flwyddyn a hanner.
Mae'n hapus gyda'i gartref, y lleoliad, yr adnoddau - ond mae'r cyfnod clo wedi tynnu sylw at un peth.
'Rhwystredig'
"Mae'r fflat yn rili neis, a ma' fe'n agos i fi o ran gwaith - mae'r lleoliad yn grêt," meddai wrth raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru.
"Ond yn anffodus does dim balconi gyda ni. Dwi ar y llawr cyntaf yn y bloc o fflatiau.
"A thu fas mae 'na faes parcio, sy'n ideal i gadw'r car bant o'r hewl, ond wedyn does dim gardd bersonol er mwyn cael awyr iach."
Dywedodd ei bod yn rhwystredig peidio cael ardal yn yr awyr agored, yn enwedig ar ddechrau'r cyfnod clo ble roedd y cyfyngiadau'n llawr mwy llym.
"Gallen i fod wedi mynd i'r lle parcio i eistedd yn yr haul, neu ar bwys y car, ond dyw hwnna ddim yr un peth a gallu mynd mas i gael awyr iach mewn lle personol dy hunan," meddai Daniel.
"O'dd hwnna'n bach o struggle a bod yn onest - jest rhwystredig.
"Hyd yn oed os byddai balconi bach gyda ni bydden ni'n gallu mynd mas i gael bach o awyr iach a chael haul, neu fwyd tu fas, ond yn anffodus doedden i ddim yn gallu gwneud hynny yn y bloc o fflatiau rwy'n byw ynddo."
'Diffyg hyblygrwydd cartrefi'
Nid Daniel yw'r unig un i gael y broblem yma.
Yn ôl Efa Lois o Gomisiwn Dylunio Cymru, mae'r cyfnod clo wedi dangos gwendidau amlwg o ran dyluniad y llefydd ry'n ni byw.
"Dwi'n meddwl bod diffyg hyblygrwydd o fewn cartrefi, fel diffyg mynediad i ofod allanol, yn enwedig i'r rheiny sy'n byw mewn fflatiau heb falconi neu ardd," meddai.
"Y ffaith nad oes modd i bawb gerdded o gwmpas a chael mynediad i wasanaethau a'r pethau sydd angen arnyn nhw wrth gadw pellter cymdeithasol.
"Anhygyrchedd rhai cartrefi hefyd, o ran bod dim modd i rai pobl - oherwydd ble maen nhw'n byw - fynd i gerdded mewn parc neu gael mynediad i ryw ofod allanol sy'n saff.
"Dwi'n credu bod y misoedd diwethaf 'ma wedi amlygu beth yw gwerth balconi a gofodau fel roof terraces a gerddi cymunedol a gerddi preifat, a'r pwysigrwydd bod gan bobl fynediad i ofodau gwyrdd cyhoeddus o ansawdd uchel sy'n agos i ble maen nhw'n byw, a hefyd bod modd mynd i'r gofodau 'ma yn ddiogel."
Ychwanegodd ei bod yn debygol iawn y gallwn ni ddisgwyl peth newid yn y dyfodol.
"Does dim angen newid mawr i'r system gynllunio o reidrwydd ond falle bod angen mwy o ffocws ar y syniad o greu lleoedd gwell a saffach i bobl," meddai.
'Man gwan'
Mae cyfarwyddwr y Royal Town Planners Institute Cymru, Dr Roisin Willmott yn cytuno.
"Efallai bod y pandemig wedi amlygu beth sydd angen ar bobl o'r llefydd maen nhw'n byw, a bod ardaloedd gwyrdd agored yn bwysig," meddai.
"Y man gwan yw pan nad yw pobl yn gallu cael mynediad i fynd tu fas.
"Felly, yn ystod y cyfnod clo, mae hi'n anodd iawn os ydych chi mewn tŷ neu fflat fach iawn heb unrhyw ofod tu fas o gwbl."
Dywedodd cyfarwyddwr cynllunio Ffederasiwn yr Adeiladwyr Tai, Andrew Whitaker wrth BBC Cymru bod datblygwyr yn barod i ddarparu'r hyn mae cwsmeriaid yn gofyn amdano.
"Un o'r blaenoriaethau allweddol pan yn adeiladu cartrefi dwysedd uchel mewn ardaloedd trefol yw creu ardaloedd tu fas i bobl allu mwynhau, boed hynny yn agosrwydd at barc neu falconi sy'n creu gofod tu fas," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2020