Ymwelwyr Eryri: 'Dim synnwyr cyffredin na pharch'

Yn ôl Haf Meredydd, un o wardeiniaid gwirfoddol Parc Cenedlaethol Eryri, roedd y golygfeydd o geir wedi'u parcio ar hyd ochr y ffordd dros y penwythnos yn rhai "pryderus iawn".

Dywedodd ei bod hi'n "rhwystredig fod 'na ddim parch" gan yr ymwelwyr, a bod angen i bobl wirio trefniadau teithio a pharcio cyn mentro am y mynyddoedd.