Canfod rhagor o olion 'Cantre'r Gwaelod' yng Ngheredigion

Mae mwy o goed hynafol wedi ymddangos ar arfordir Ceredigion dros y dyddiau diwethaf, a hynny yn yr ardal sy'n gysylltiedig â chwedlau enwog Cantre'r Gwaelod.

Mae tystiolaeth o hen foncyffion yn gallu ymddangos ar draeth Borth i'r gogledd o Aberystwyth ar lanw isel neu ar ôl tywydd garw, gydag enghreifftiau hefyd ar hyd arfordir Cymru.

Ond am y tro cyntaf mae hen foncyffion wedi dod i'r golwg ar draeth Llanrhystud yn dilyn storm Francis.