Cyffro haneswyr wrth ddarganfod 'coed Cantre'r Gwaelod'
- Cyhoeddwyd
Mae mwy o goed hynafol wedi ymddangos ar arfordir Ceredigion dros y dyddiau diwethaf, a hynny yn yr ardal sy'n gysylltiedig â chwedlau enwog Cantre'r Gwaelod.
Yn ôl y chwedl, fe gafodd Cantre'r Gwaelod ei boddi ar ôl i Seithenyn, oedd yn gyfrifol am furiau'r deyrnas, anghofio cau'r drysau oedd yn gwarchod y wlad rhag y môr.
Mae tystiolaeth o hen foncyffion yn gallu ymddangos ar draeth Borth i'r gogledd o Aberystwyth ar lanw isel neu ar ôl tywydd garw, gydag enghreifftiau hefyd ar hyd arfordir Cymru.
Ond am y tro cyntaf mae hen foncyffion wedi dod i'r golwg ar draeth Llanrhystud yn dilyn storm Francis.
'Miloedd o flynyddoedd oed'
Mae'r hanesydd lleol Gerald Morgan wedi ei gyffroi am y canfyddiad "hollol newydd".
"Mae'n ychwanegiad at bentwr o wybodaeth sydd gyda ni eisoes.
"Mae mapiau yn dangos bod coed marw - o filoedd o flynyddoedd - wedi eu canfod ar draws Cymru.
"Ond, mae'r enghreifftiau yn Llanrhystud yn hollol newydd," meddai Mr Morgan, sy'n aelod o Gymdeithas Hanes Ceredigion., dolen allanol
Yn ôl un fersiwn o'r chwedloniaeth, roedd Cantre'r Gwaelod yn ymestyn rhyw 20 milltir i'r gorllewin o'r hyn sydd nawr yn Fae Ceredigion.
Dywedodd Mr Morgan: "Dwi'n berffaith sicr bod chwedl Cantre'r Gwaelod, sef un o'n chwedlau mwyaf hyfryd, yn cael ei sefydlu gan ddwy ffin sy'n dal i gael eu gweld heddiw.
"Un yw Sarn Gynfelin, rhwng Aberystwyth a'r Borth sy'n rhedeg allan i'r môr am saith milltir, a Sarn Badrig ym Meirionnydd.
"Rhwng y ddwy sarn yma oedd Cantre'r Gwaelod, os oedd hi'n Gantre'r Gwaelod.
"Dyna sy'n cael ei ddathlu yn y chwedlau i gyd."
Y gred yw bod y goedwig, rhwng Ynyslas a'r Borth, wedi cael ei chladdu o dan ddŵr a thywod dros 4,500 o flynyddoedd yn ôl.
Mae profion yn cael eu cynnal ar safle Llanrhystud er mwyn dysgu mwy am y boncyffion coed.
Mae Dr Hywel Griffiths, o Brifysgol Aberystwyth, yn rhan o brosiect ymchwil ar y cyd rhwng grwpiau yng Nghymru ac Iwerddon - CHERISH - sy'n edrych ar newid amgylcheddol ar yr arfordir.
"I wyddonydd, mae'r darganfyddiad yn gyffrous ac yn bryderus dwi'n meddwl," meddai.
"Mae'n gyffrous oherwydd ei fod yn dystiolaeth arall o'r prosesau newid hinsawdd 'ma sydd wedi bod yn digwydd dros gyfnod hir.
"Ond hefyd, yn bryderus am bo' nhw i weld yn dod i'r amlwg yn amlach erbyn hyn oherwydd effaith a dylanwad y stormydd sy'n teimlo fel bo' nhw'n digwydd yn fwy niferus."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mai 2019