Gwrachod Cymru mewn lliw

  • Cyhoeddwyd

Mae'r artist Efa Lois wrth ei bodd â chwedloniaeth Cymru, ac am yr ail flwyddyn yn olynol, mae hi wedi paentio llun o wrach Gymreig bob dydd ym mis Hydref, gan roi tipyn o bwt am hanes pob un.

Yma mae hi'n egluro pam:

Ffynhonnell y llun, Efa Lois
Disgrifiad o’r llun,

Ofnai pobl ardal Llanfrothen Mallt y Wrach. Yn ôl y chwedl, roedd hi'n dod o Roslan, ger Cricieth, ond doedd neb o Roslan wedi clywed amdani. Byddai Mallt yn cael ei dillad a'i bwyd gan bobl Llanfrothen yn ddi-dal, gan fod arnyn nhw gymaint o'i hofn hi.

"Dwi wastad wedi ymddiddori mewn chwedloniaeth, a mae llawer o ngwaith arall i i'w wneud gyda menywod a hanes Cymru. Ers cwpl o flynyddoedd, dwi'n casglu llyfrau am chwedloniaeth Cymru ac yn darllen am chwedlau lleol mewn hen erthyglau a hen lyfrau, a thrio casglu'r archif yma o wrachod Cymru.

"Dwi'n meddwl fod llên gwerin yn rili diddorol - ni yn gyfarwydd â'r Mabinogi... ond o'dd y menywod yma yn llenwi rhyw fath o fwlch yng ngwybodaeth lot o bobl.

Ffynhonnell y llun, Efa Lois
Disgrifiad o’r llun,

Roedd trigolion Henllan, ger Dinbych, yn ofni Pedws Ffowc y wrach. Roedd pobl yn credu pe byddai hi'n edrych atyn nhw gyda'i llygaid gwyrdd yn y bore, byddai pethau'n mynd o chwith iddyn nhw am weddill y diwrnod. Roedd pobl yn arfer dweud ei bod hi'n swyno ceffylau pan fyddai pobl yn gwrthod rhoi tatws iddi, ac iddi felltithio crydd lleol pan wrthododd ef drwsio ei hesgidiau.

Ffynhonnell y llun, Efa Lois
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Nansi Goch yn wrach o Lanidloes, oedd â gwallt coch hyfryd. Roedd dynion lleol yn credu ei bod yn caru gyda Satan, felly roedden nhw'n gwrthod ymwneud â hi. Roedd y bobl leol yn credu ei bod hi'n troi pobl oedd wedi gwneud cam â hi mewn i geffylau, a byddai hi'n eu marchogaeth nhw nes eu bod nhw'n marw o orflinder.

"Beth sy'n rili diddorol amdanyn nhw, er fod rhai ohonyn nhw'n teimlo'n fwy chwedlonol na'i gilydd, y tebygolrwydd ydi eu bod nhw wedi bod yn fenywod go iawn ar un adeg. Roedd pobl yn meddwl eu bod nhw'n 'od' am ryw reswm, a bydde'r chwedlau 'ma wedi tyfu o'u cwmpas nhw.

"Mae 'na amrywiaeth o ran cyfnod - rhai yn y 15fed ganrif, rhai yn y 18fed ganrif, a rhai efallai yn fwy diweddar - ond oherwydd natur y chwedloniaeth, mae hi'n anodd mynd yn ôl a dod o hyd i'r union berson oedd wedi ysbrydoli'r chwedl, a phryd oedden nhw'n fyw.

Ffynhonnell y llun, Efa Lois
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y chwedl, roedd Reba yn wrach o Landeilo. Un tro, fe wnaeth dyn ei helpu hi i gario sachaid o ŷd roedd hi'n stryffaglu â hi. Collodd beth o'r ŷd ar ei siwrne trwy lawr ei gert. Sylwodd Reba fod peth ŷd ar goll, a gofynnodd hi iddo'i ddychwelyd, ond gadawodd heb air pellach. Pan gyrhaeddodd y dyn adre, roedd un o'i geffylau yn eistedd ar ei goesau ôl fel cath. Credodd fod Reba wedi rheibio'r anifail, felly anfonodd amdani. Gofynnodd hi unwaith eto am yr ŷd coll, a daeth ei wraig ag ef mewn bwced. Trodd Reba at y ceffyl a dweud: 'lan â thi, te', ac roedd y ceffyl yn iawn.

Ffynhonnell y llun, Efa Lois
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Malen yn 'wrach' oedd yn byw ger Porthaethwy. Roedd sôn y byddai hi'n rheibio'r rheiny fyddai'n mynd yn groes iddi. Un tro, fe wnaeth dyn ei sarhau hi, ac yn fuan wedyn, prynodd fochyn drud ym marchnad Biwmares. Ond unwaith iddo gyrraedd ei dŷ a dechrau bwyta ei de, clywodd sŵn ofnadwy ac yno oedd y mochyn yn ewynu o'i geg, ac yn rhedeg mewn cylchoedd fel ci yn ymlid ei gynffon ei hunan. Aeth at dŷ Malan gydag ambell frigyn cerddin, a bygwth ei churo hi os na fyddai hi'n dod i'r twlc. Dywedodd hi wrtho nad oedd ganddi ran yn helynt y mochyn. Mynnodd y ffermwr idd i fwytho cefn y mochyn saith gwaith, a dyna a wnaeth hi. Iachaodd y mochyn yn y man.

"Dwi'n meddwl fod edrych ar y menywod 'ma drwy lens gyfoes yn beth diddorol. Roedd y gwrachod yma yn aml yn cael eu beio am bethau. Roedd Malen wedi cael ei beio fod mochyn y dyn 'ma wedi dechrau bihafio fel ci gyda rabies - a nes i gŵglo fe, a mae moch yn gallu cael rabies, mae'n debyg. Ond roedd y dyn wedi penderfynu fod Malen wedi melltithio'r mochyn.

"Ar y pryd roedd e'n haws egluro drwy feio rhywun amdano fe.

Ffynhonnell y llun, Efa Lois
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y chwedl, dwy fenyw a fynychai'r eglwys leol oedd gwrachod Llanddewi Brefi. Byddent yn cadw bara'r Cymun Sanctaidd yn eu cegau, a cherdded o amgylch yr eglwys naw gwaith. Ar y nawfed tro, byddai'r Diafol yn ymddangos o fur yr eglwys ar ffurf broga, a byddent yn rhoi iddo'r bara roeddent wedi ei gadw yn eu cegau.

Ffynhonnell y llun, Efa Lois
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y chwedl drefol, gwrach bengoch, adeiniog oedd gwrach Llandaf. Byddai'n ymddangos yn y cysgodion pan fyddai rhywun yn marw, eu lapio yn ei hadennydd a'u dwyn ymaith.

"Dwi'n trio gwneud ymdrech i wneud iddyn nhw edrych yn wahanol i'w gilydd, achos hyd yn oed os ma'r chwedlau yn eitha tebyg i'w gilydd, falle fod y menywod 'ma, o ran personoliaeth, mor wahanol i'w gilydd ag oedden nhw'n gallu bod.

"Roedd rhain yn fenywod go iawn, a ddim yn wrachod fel mae Hollywood yn portreadu gwrachod. Dwi'n meddwl ei fod e'n bwysig i gynrychioli gymaint o bobl â sy'n bosib, a bod pobl yn gallu edrych arno fe a dweud 'w, mae hi'n edrych fel fi'."

Ffynhonnell y llun, Efa Lois
Disgrifiad o’r llun,

Hanodd Ala'r wrach o ardal Llanrug. Enillodd fywoliaeth trwy greu a gwerthu rhwymedïau perlysieuol, darogan, a gwerthu swynau serch.

Ffynhonnell y llun, Efa Lois
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd menyw a oedd yn byw ar ei phen ei hun ei throi allan o'i thŷ gan ddyn ifanc. Symudodd hi i fwthyn ambell ddrws i lawr o'i hen dŷ. Yn fuan wedyn, clywyd cnocio'n dod o waliau hen dŷ'r wrach, a bu farw popeth a blannodd y dyn yn yr ardd. Byddai ysgyfarnog yn ymddangos yn ei fwthyn, a dechreuodd y dyn amau bod y fenyw a oedd yn byw yno gynt yn gyfrifol mewn rhyw ffordd. Ceisiodd saethu'r ysgyfarnog, ond trodd yn gadno, yna mochyn daear, ac yna arth fawr ddu. Rhedodd y dyn ymaith, wedi ei frawychu'n lân.

Ffynhonnell y llun, Efa Lois
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y chwedl, roedd Gwiddon Honey Harfait yn byw yn Hwlffordd. Roedd hi'n gallu clirweled a rhagweld y dyfodol, ac â'r gallu i ddod o hyd i bethau coll. Roedd pobl yn credu y byddai hi a'i chynulliad o wrachod yn mynd i goedwig dywyll tu allan i'r dref ar nosweithiau hir yr haf er mwyn cynnal defodau a dawnsio mewn ffordd ryfedd.

Hefyd o ddiddordeb: