Tynnu lluniau o bell yn ffotomarathon rhithiol Aberystwyth
- Cyhoeddwyd

'Clyd' gan Kate Woodward
Cafodd ffotomarathon blynyddol FfotoAber ei chynnal yn rhithiol eleni, gan ganiatáu i gystadleuwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt gyflwyno eu ceisiadau.
Gyda chwe thema yn cael eu cyhoeddi dros benwythnos 24-25 Hydref, cyflwynodd dros 150 o bobl eu setiau amrywiol o ddelweddau gan olygu bod yn rhaid dyfarnu dros 1,000 o luniau.
Roedd tri chategori i'w beirniadu - cynradd, uwchradd ac agored - yn ogystal â'r llun gorau ymhob thema felly roedd 'na dipyn o waith i'r beirniad, y ffotograffydd proffesiynol, Kristina Banholzer.
"Doedd ganddon ni ddim syniad ar y cychwyn faint o luniau fyddai'n cael eu cyflwyno ond roedd yr ymateb yn wych," meddai.
"Roedd y safon yn anhygoel o uchel ar draws pob categori ac roedd penderfynu ar y ceisiadau buddugol yn dipyn o her.
"Ond er ei fod yn heriol, roedd hefyd yn brofiad hynod o bleserus gweld sut roedd pobl yn dehongli'r themâu yn enwedig yn y cyfnod presennol."

'Tri' ci bach sinsir Gwion Crampin
Y chwe thema a ddewiswyd gan y trefnwyr oedd 'Clyd', 'Tri', 'Drych', 'Oren', 'O Bell' a 'Llawnder'.
Roedd cyfle i bobl gymryd rhan ble bynnag yr oeddent yn byw ac roedd y cystadleuydd pellaf yn Seland Newydd.
Mae'r lluniau i gyd bellach i'w gweld ar ffotomarathon.cymru, dolen allanol, ond dyma enghreifftiau o waith rhai o'r ffotograffwyr buddugol.

Enillydd y categori oedran cynradd - Elenor Nicholas, disgybl Ysgol Gymraeg Aberystwyth.
"Rydw i'n falch iawn o ennill dwy gystadleuaeth ac fe wnes i fwynhau llawer wrth gystadlu," meddai. "Fi'n cystadlu bob blwyddyn ac yn cael lot o hwyl. Wrth dynnu llun fy nod yw dewis pwnc amlwg ac yna ei gyfansoddi'n dda."

'O bell' gan Elenor Nicholas. Dyma hefyd oedd y llun buddugol ar y thema yma

'Drych' gan Elenor Nicholas

Cath yn gorwedd yn 'Glyd' - un arall o luniau Elenor Nicholas

Enillydd y categori oedran uwchradd oedd myfyriwr o Ysgol Gyfun Penweddig, Gwion Crampin.

'Llawnder' Gwion Crampin

'Oren' hyfryd Gwion

Lluniau Kate Woodward, a enillodd yn y categori agored. Mae Kate yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Roedd y beirniad, Kristina Banholzer, yn teimlo fod lluniau Kate yn adlewyrchiad da o'r cyfnod presennol:
"Wrth edrych ar ddelweddau Kate roeddwn yn teimlo eu bod wir wedi dogfennu'r cyfnod clo cyfredol ac yn adrodd stori teulu yn yr hinsawdd sydd ohoni. Hoffais yn arbennig y palet lliw ac roedd cyfansoddiad y delweddau yn cryfhau eu heffaith."

Llun Kate dan y thema 'drych'

'O bell', Kate Woodward

Enillwyr eraill y themâu oedd Tom Oldridge am 'Clyd' a 'Llawnder', Rob Stephen am 'Tri' a 'Drych', a Ffion Jones am 'Oren'.

Llun buddugol Ffion Jones ar y thema 'oren'


'Llawnder' gan Tom Oldridge


'Tri' gan Rob Stephen

Yn ôl Catrin M S Davies, un o'r trefnwyr, fe wnaeth y ffotomarathon rhithiol gynnig y cyfle i gynnwys mwy o gystadleuwyr:
"Gyda chymaint o ddigwyddiadau'n cael eu canslo, mae ffotograffiaeth yn bendant yn eithaf hygyrch ac mae'r gallu i dynnu lluniau heb fentro ymhell o gartref wedi profi'n ddeniadol iawn i lawer.
"Roedd y diddordeb dipyn uwch na'r hyn oeddem yn disgwyl ond roedd yn wych gweld yr amrywiol luniau a sut wnaeth pobl ddehongli'r themâu.
"Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran ac rydym yn mawr obeithio y bydd y ffotomarathon corfforol yn dychwelyd yn 2021."
Hefyd o ddiddordeb: