Llwyddiant ffotomarathon gwahanol yn y cartref

  • Cyhoeddwyd

Bob blwyddyn yn Aberystwyth, mae ffotomarathon poblogaidd yn cael ei gynnal, gyda'r nod o gymryd chwe llun mewn chwe awr ar chwe thema wahanol.

Wrth gwrs, oherwydd nad yw hi'n bosib gadael y tŷ rhyw lawer, nid yw digwyddiad o'r fath yn bosib ar hyn o bryd. Ond roedd y trefnwyr dal yn awyddus i drefnu rhywbeth i adlonni dros benwythnos y Pasg.

Felly, dyma gynnal ffotomarathon unigryw - tynnu pedwar llun ar bedwar thema dros bedwar diwrnod, ond i wneud hynny drwy gadw at y cyfyngiadau sydd mewn grym.

A bu'n llwyddiant ysgubol, gyda dros 1,000 o luniau wedi eu huwchlwytho i'r cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio'r hashnod #ffotomarathonpasg ar y themâu Pren, Melyn, Rhif ac Adlewyrchiad.

Dyma flas o'r lluniau buddugol:

Ffynhonnell y llun, Rhian Lowri
Disgrifiad o’r llun,

Rhian Lowri oedd enillydd y set o bedwar llun. Dyma ei llun ar y thema Pren

Ffynhonnell y llun, Rhian Lowri
Disgrifiad o’r llun,

Melyn

Ffynhonnell y llun, Rhian Lowri
Disgrifiad o’r llun,

Rhif

Ffynhonnell y llun, Rhian Lowri
Disgrifiad o’r llun,

Adlewyrchiad

Y beirniad oedd Aled Jenkins, ac roedd y safon yn eithriadol, meddai:

"Roedd y gwaith o feirniadu, er yn bleserus iawn, yn waith hynod o anodd a hynny gan fod y safon mor aruthrol o uchel. Gallwn fod wedi gwobrwyo sawl un bob dydd."

Ffynhonnell y llun, Rhodri ap Dyfrig
Disgrifiad o’r llun,

Llun buddugol y thema Pren - Rhodri ap Dyfrig

Ffynhonnell y llun, Harriet McDevitt-Smith
Disgrifiad o’r llun,

Harriet McDevitt-Smith oedd enillydd y thema Melyn

Ffynhonnell y llun, John Gorman
Disgrifiad o’r llun,

John Gorman ddaeth i'r brig ddydd Sul, sef diwrnod Rhif

Ffynhonnell y llun, Dylan Meirion
Disgrifiad o’r llun,

Llun Dyl Mei oedd y gorau ar y thema Adlewyrchiad

Roedd y ffotomarathon hon yn dra gwahanol i'r drefn arferol ond fel yr eglura Deian Creunant, un o'r trefnwyr, mae angen meddwl am bopeth yn wahanol erbyn hyn:

"Er y cyfyngiadau sydd arnom y dyddiau hyn mae ffotograffiaeth yn parhau i fod yn weddol hygyrch - yr hyn oedd yn heriol gyda'r syniad hwn oedd adnabod delweddau i gyd-fynd â'r thema o fewn ac o gwmpas eich cartref.

"Roeddem yn awyddus iddo gynnig gweithgaredd i'r teulu cyfan a falle yn annog cystadleuaeth iach o fewn teuluoedd - ond yn y bôn y nod oedd cael ychydig o hwyl - a gobeithio i hynny fod yn wir."

Ffynhonnell y llun, Hedydd Beechey
Disgrifiad o’r llun,

Enillydd ifanc y ffotomarathon oedd Hedydd Beechey, naw oed. Dyma ei llun ar thema Pren

Ffynhonnell y llun, Hedydd Beechey
Disgrifiad o’r llun,

Melyn

Ffynhonnell y llun, Hedydd Beechey
Disgrifiad o’r llun,

Rhif

Ffynhonnell y llun, Hedydd Beechey
Disgrifiad o’r llun,

Adlewyrchiad

Ewch i dudalennau cyfryngau cymdeithasol FfotoAber i weld gweddill y lluniau.

Hefyd o ddiddordeb: