Llacio rheolau: 'Edrych ymlaen yn fawr at ailagor'
O ddydd Sadwrn fe fydd pobl Cymru'n cael teithio i unrhyw ran arall o Gymru wrth i'r rheol 'aros yn lleol' gael ei llacio.
Dywed Llywodraeth Cymru bod y sefyllfa wedi sefydlogi digon i fwrw ymlaen i godi cyfyngiadau teithio - tan 12 Ebrill yn y lle cyntaf.
Mae'n golygu y bydd modd i fusnesau lletygarwch hunangynhwysol, yn cynnwys rhai gwestai a bythynnod, hefyd yn gallu ailagor, ond dim ond i bobl sy'n teithio o rannau eraill o Gymru
Mae'r gwaharddiad yn parhau am o leiaf bythefnos ar deithiau i Gymru o wledydd eraill y DU nad sy'n hanfodol.
Mae cwmni Lyons yn rhedeg 13 o safleoedd gwyliau ar draws Cymru, ac fel y dywed Beth Hughes mae yna gryn edrych ymlaen at gael ailagor.