Seremonïau graddio yn 'marcio diwedd pennod'

Mae'n annhebygol y bydd myfyrwyr prifysgol yng Nghymru yn cael seremonïau graddio haf am yr ail flwyddyn yn olynol.

Aberystwyth yw'r brifysgol ddiweddaraf i ohirio ei seremonïau ar ôl ansicrwydd ynglŷn â phryd y bydd hi'n bosib trefnu digwyddiadau ar raddfa fawr.

Daw cyhoeddiad Aberystwyth yn sgil penderfyniadau tebyg gan y mwyafrif o brifysgolion eraill yng Nghymru.

Dywedodd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM) yng Nghymru y byddai'r newyddion yn "ofidus i fyfyrwyr".

Mae Meleri Williams, 21, bellach yn wynebu graddio bron i ddwy flynedd ar ôl gorffen ei gradd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gan ei bod hi bellach yn astudio at radd meistr Newyddiaduraeth Darlledu yng Nghaerdydd, mae'n bosib y bydd hi'n graddio ddwywaith yn 2022.