Dim seremonïau graddio i fyfyrwyr am ail flwyddyn yn olynol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Dywedodd Meleri Williams bod seremonïau graddio yn "marcio diwedd pennod" i fyfyrwyr

Mae'n annhebygol y bydd myfyrwyr prifysgol yng Nghymru yn cael seremonïau graddio haf am yr ail flwyddyn yn olynol.

Aberystwyth yw'r brifysgol ddiweddaraf i ohirio ei seremonïau ar ôl ansicrwydd ynglŷn â phryd y bydd hi'n bosib trefnu digwyddiadau ar raddfa fawr.

Daw cyhoeddiad Aberystwyth yn sgil penderfyniadau tebyg gan y mwyafrif o brifysgolion eraill yng Nghymru.

Dywedodd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM) yng Nghymru y byddai'r newyddion yn "ofidus i fyfyrwyr".

Beth mae prifysgolion wedi'i benderfynu?

Mae Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn gobeithio y bydd modd cynnal eu seremonïau y flwyddyn nesaf.

Mae Prifysgol Abertawe yn bwriadu edrych i aildrefnu pan fydd hi yn "ddiogel ac yn briodol" i wneud hynny.

Mae gwefan Prifysgol Bangor yn dal i hysbysebu seremonïau ym mis Gorffennaf, ond deellir y byddan nhw hefyd yn adolygu'r penderfyniad.

Chafodd yr un seremoni raddio ei chynnal yng Nghymru y llynedd ond roedd llawer o sefydliadau addysg uwch yn gobeithio cynnal seremonïau gohiriedig ar gyfer myfyrwyr 2020 yr haf hwn.

Mae'r cyhoeddiadau diweddaraf yn golygu y bydd yn rhaid i ddegau o filoedd o fyfyrwyr aros tan o leiaf 2022 cyn y gallant wisgo eu capiau a'u gynau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae mwyafrif o brifysgolion Cymru eisoes wedi penderfynu na fydd modd cynnal seremonïau yn yr haf

Dywedodd Meleri Williams, 21, ei bod bellach yn wynebu graddio bron i ddwy flynedd ar ôl gorffen ei gradd ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Gwnes i fy ngradd israddedig BA Cymraeg a Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd rhwng 2017 a 2020, felly, mi wnes i raddio'n rhithiol ym mis Gorffennaf y llynedd," esboniodd.

"Roedd hi'n brofiad rhyfedd gwylio fy seremoni raddio ar y cyfrifiadur o adref, ac yn siomedig iawn i beidio â chael dathlu tair blynedd o waith caled gyda fy ffrindiau a theulu.

"Doedd dim modd diolch yn iawn i'r darlithwyr chwaith."

'Dim dewis ond gohirio'

Dywedodd Meleri ei bod yn siomedig ond ei bod yn deall penderfyniad y brifysgol.

"Wrth gwrs, doedd dim dewis ond gohirio dan yr amgylchiadau," meddai.

"Dwi'n gobeithio mai dim ond gohirio'r seremoni fydd yr achos, ac nid canslo'n gyfan gwbl. Byddai hynny'n siom enfawr."

Mae Meleri bellach yn astudio at radd meistr Newyddiaduraeth Darlledu yng Nghaerdydd ac mae hi'n gobeithio graddio y flwyddyn nesaf.

"Mae'n ddigon posib felly y byddaf yn graddio ddwywaith yn 2022!"

Ffynhonnell y llun, Katie Parker
Disgrifiad o’r llun,

Dywedod Katie Parker "nad ydy myfyrwyr wedi bod ar flaen meddwl y prifysgolion"

Mae Katie Parker, 21, sy'n fyfyriwr israddedig blwyddyn olaf yng Nghaerdydd, o'r farn y dylai prifysgolion fod wedi ystyried mwy o opsiynau.

"Mae'n teimlo fel nad ydy myfyrwyr wedi bod ar flaen meddwl y prifysgolion," meddai.

"Mae graddio yn bwysig i fyfyrwyr oherwydd ei fod yn glo ar y cyfan, lle maen nhw'n cael dathlu'r gwaith caled maen nhw wedi'i wneud yn ystod eu cyfnod yn y coleg.

"Mae'n amser pan rydych chi'n teimlo bod eich amser yn y brifysgol yn cael ei gydnabod yn swyddogol.

"Byddwn i wedi meddwl y byddai modd cynnal seremonïau gyda grwpiau llai o fyfyrwyr, gyda system ymbellhau cymdeithasol, neu heb unrhyw gynulleidfa."

Dydy gohirio'r seremonïau ddim yn effeithio ar allu myfyrwyr i raddio o'u cwrs.

Ffynhonnell y llun, Becky Ricketts
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Becky Ricketts ei bod yn "hanfodol bwysig" bod myfyrwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn seremoni raddio

Dywedodd llywydd UCM Cymru, Becky Ricketts, ei bod hi'n teimlo'n "siomedig" dros fyfyrwyr.

"Mae graddio yn cynrychioli diwedd taith y myfyriwr, felly mae peidio â chael y cyfle i ddathlu yn peri gofid i fyfyrwyr ledled Cymru," meddai.

"Mae hon wedi bod yn flwyddyn unigryw o anodd i fyfyrwyr, felly mae'n hanfodol bwysig bod prifysgolion yn sicrhau bod myfyrwyr sydd wedi colli'r cyfle i raddio yn cael cyfle i ddathlu eu cyflawniadau rhagorol yn bersonol pan ystyrir ei bod yn ddiogel gwneud hynny."

'Penderfyniadau anhygoel o anodd'

Dywedodd llefarydd ar ran corff Prifysgolion Cymru: "Mae'r penderfyniadau a wneir gan sefydliadau ynghylch seremonïau graddio eleni yn rhai anhygoel o anodd, ac nid ydynt yn cael eu cymryd yn ysgafn.

"Diogelwch a lles myfyrwyr a staff yw'r brif flaenoriaeth i brifysgolion yng Nghymru a - gan eu bod wedi gwneud hynny trwy gydol y pandemig - bydd unrhyw benderfyniadau a gymerir yn adlewyrchu'r cyfyngiadau cyfredol, a chyngor iechyd y cyhoedd a llywodraeth.

"Mae Prifysgolion Cymru yn benderfynol o ddathlu llwyddiannau myfyrwyr graddio sydd wedi cwblhau eu graddau yng nghanol her pandemig byd-eang.

"Bydd sefydliadau'n gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu graddedigion i nodi a dathlu'r achlysur pwysig hwn gan gynnwys cynnal digwyddiadau dathlu rhithiol ar-lein."

Dydy Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, sydd yn cynnal eu seremonïau yn y gaeaf fel arfer, ddim wedi gwneud penderfyniad eto ynglŷn â seremonïau eleni.