Tirlithriad traeth Nefyn yn 'sgubo gerddi tai i ffwrdd

Mae'r heddlu wedi galw ar bobl i gadw draw o draeth yng Ngwynedd wedi tirlithriad mawr sydd wedi ysgubo gerddi dau dŷ ymaith.

Fe ddigwyddodd y tirlithriad ar draeth Nefyn tua 10:30 ddydd Llun.

Dywedodd un o breswylwyr yr ardal bod y tirlithriad yn "anferth" ac "wedi cymryd y tir o waelod y tai haf ar Rhodfa'r Môr".

Ychwanegodd: "Mae yna bobl leol i'r dde o'r tai yna ac maen nhw mewn lle go beryg faswn i'n dweud."