'Tirlithriad mawr' yn Nefyn: Annog pobl i gadw draw

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dyma'r foment y digwyddodd tirlithriad ar draeth Nefyn

Mae pobl yn cael eu cynghori i gadw draw o draeth yng Ngwynedd ar ôl yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel "tirlithriad mawr".

Fe ddigwyddodd ar draeth Nefyn fore Llun.

Dywedodd un sy'n byw gerllaw bod i tirlithriad wedi ysgubo gerddi dau dŷ ymaith, a bod trigolion un arall gerllaw wedi cael rhybudd i adael eu cartref gan yr heddlu.

Dywed Heddlu'r Gogledd eu bod yn ymateb i'r sefyllfa ar hyn o bryd, gan annog pobl i gadw draw o'r ardal.

Ffynhonnell y llun, Christian Pilling
Ffynhonnell y llun, Christian Pilling

Dywedodd y llu mewn neges ar Twitter: "Rydym yn ymwybodol fod pobl yn ymgasglu i dynnu lluniau.

"Cynghorir y cyhoedd i osgoi'r ardal hyd nes y clywir yn wahanol, tra mae'r gwasanaethau brys a chwmnïau cyfleustodau yn diogelu'r ardal."

Mae Gwylwyr y Glannau hefyd yn rhoi'r un neges wrth i aelodau eu tîm achub ym Mhorthdinllaen helpu'r heddlu sicrhau bod pobl yn cadw draw o'r ardal sydd wedi'i heffeithio.

Dywedodd llefarydd bod y gwasanaeth wedi derbyn galwad "wedi 12:30 heddiw i adroddiad o gwymp clogwyn yn nhraeth Nefyn".

Ffynhonnell y llun, Joan Coppin
Disgrifiad,

Tirlithriad Nefyn: Roedd Mandy Stubbs lathenni o'r clogwyn pan ddigwyddodd y tirlithriad

Dywedodd Joan Coppin, sy'n byw gerllaw: "Fe ddigwyddodd tua 10:30 - mae o wedi cymryd y tir o waelod y tai haf ar Rhodfa'r Môr - mae yna bobl leol i'r dde o'r tai yna ac maen nhw mewn lle go beryg faswn i'n dweud.

"Dwi'n byw yng nghefn y traeth... fe gefais i olwg ac argol fawr mae'n anferth. Rwy'n falch mai heddiw digwyddodd o - dwi wir yn gobeithio bod neb ar goll. Pe bydde fo wedi digwydd ddoe, roedd pobl o gwmpas am ei bod y heulog.

"Dyw'r bobl leol ddim yn mynd yno pan mae'r llanw'n dod i mewn. Mae'r ardal gyfan - tua dwy filltir a hanner - hefo erydiad ac ry'n ni wedi gweld tirlithriadau mawr yno o'r blaen."

'Sioc ein bywydau'

Dywedodd Christian Pilling, o Forfa Nefyn: "Roeddan ni newydd fynd i lawr am dro a wnaethon ni droi rownd a chael sioc ein bywydau.

"Dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw un ar y traeth. Roedden ni wedi mynd lawr yna tua hanner awr ar ôl iddo ddigwydd.

"Mae'n tua 40m o led, ond mae'n anodd dweud."

Ffynhonnell y llun, Joan Coppin

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd brynhawn Llun: "Mae tirlithriad sylweddol wedi effeithio traeth Nefyn gyda rhan sylweddol o'r clogwyn wedi syrthio ar y traeth yn gynharach heddiw.

"Mae swyddogion Cyngor Gwynedd ar y safle efo'r heddlu ac mae camau diogelwch wedi eu cymryd yn cynnwys cyfyngu mynediad i rannau o'r traeth.

"Mae trefniadau ar gyfer cynnal archwiliad cychwynnol o'r clogwyn yn ei le ac rydym yn annog pobl i gadw'n glir ac i beidio mynd yn agos i'r ardal cwymp ar hyn o bryd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed cymdogion bod yr eiddo yma - tŷ haf - wedi colli rhan fawr o'r ardd

Yn ôl y British Geological Survey (BGS) mae Nefyn mewn "parth perygl o gwymp".

Mae'n dweud bod yna "amrywiaeth o fathau o dirlithriadau o fewn Bae Nefyn gan gynnwys methiannau cylchdroadol, llifau, cwympiadau a llithriadau malurion.

"Mae'r llethrau wedi eu gorchuddio â malurion ag ôl tywydd ac mae hyn yn arbennig o agored i dirlithro bas, yn enwedig pan mae'n soeglyd."

Yn 2001, bu farw dynes 58 oed, Shirley Race ac fe gafodd ei gŵr, Donald, 63, anaf difrifol pan gafodd eu car eu sgubo i'r môr gan dirlithriad yn Nefyn, dolen allanol.

Pynciau cysylltiedig