Oriel: Ail-agor y diwydiant lletygarwch yn Aber
- Cyhoeddwyd
Ddydd Llun, cafodd y rheolau Covid eu llacio unwaith yn rhagor, wrth i dafarndai, bwytai a chaffis gael agor eu drysau unwaith eto.
Dim ond cael eistedd tu allan mae cwsmeriaid ar hyn o bryd, ond yn ffodus roedd hi'n ddiwrnod braf yn Aberystwyth, lle aeth y ffotograffydd Elin Vaughan Crowley i dynnu lluniau o'r diwydiant lletygarwch yn ail-agor.
Hen ffrindiau, Judith Strauss a Margaret Leney, yn mwynhau cael cyfarfod unwaith eto. "Mae hi mor braf cael coffi wedi ei wneud i chi, mae normalrwydd yn dod nôl! Dy'ch chi ddim yn sylweddoli faint y'ch chi'n dibynnu ar letygarwch nes ei fod yn cael ei gymryd i ffwrdd."
Meddai perchennog Ridiculously Rich by Alana, Alana Spencer: "Mae hi wedi bod yn gyfnod hir, ond ry'n ni wrth ein bodd yn cael ailagor, a 'sa fe ddim yn gallu bod yn amser gwell o'r flwyddyn i gael seddi tu fas."
Craig Edwards a'i fab wedi cyffroi i gael agor eu fan bysgod ar y prom: "Mae'n wych bod yn ôl, mae hi wedi bod yn 12 mis hir a'n bwyty ni yn dre yn cau yn ystod y cyfnod. Gobeithio y bydd hwn yn ddechrau normalrwydd eto."
Mae perchennog Caesar's ar Rodfa'r Gogledd, Helen Dimmick, yn falch o gael agor eto: "Mae ein caffi ar draws y ffordd dal ar gau oherwydd diffyg lle. Ond mae hi mor wych cael gweld y cwsmeriaid rheolaidd eto."
Sykes a Simon yn gosod y byrddau tu allan i far coctêls Libertines. "Ry'n ni'n hapus iawn i gael agor, ac wrthi'n paratoi at gael lot o gwsmeriaid yn dod am goctêls!"
Roedd Medina Rees, perchennog Medina, yn "hapus tu hwnt i gael ail-agor," meddai. "Dwi'n falch iawn o gael rhoi bwyd ar blatiau unwaith eto."
Mae Heol y Wig bellach yn heol unffordd, felly mae digon o le i gwsmeriaid Y Caban gael bwyta eu cinio tu allan.
Mwynhau brechdan cig moch ac ŵy yn yr heulwen ar y stryd fawr.
Hefyd o ddiddordeb: