Agor tafarndai a bwytai: 'Mor neis croesawu cwsmeriaid'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Rhys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Gwesty Penrhos ym Machynlleth yn agor yn yr awyr agored ddydd Llun

Wrth i dafarndai, bwytai a chaffis gael ailagor yng Nghymru, mae rheolwr yn dweud y bydd yn "neis iawn croesawu cwsmeriaid unwaith eto a chael gweld pobl a chymdeithasu".

Ddydd Llun fe fydd Gwesty Penrhos ym Machynlleth ymysg y busnesau lletygarwch fydd yn ailagor yn yr awyr agored ar ôl misoedd ynghau.

Agor tu allan ydy'r cam diweddaraf wrth lacio'r rheolau Covid-19 yng Nghymru, a hynny ar ôl i chwe pherson o chwe chartref gael yr hawl i gwrdd o ddydd Sadwrn.

Hefyd o ddydd Llun mae mwy o atyniadau ymwelwyr yn cael agor, priodasau awyr agored yn cael digwydd, a newid i'r rheolau ar ymweliadau cartref gofal.

'Bwcio bwrdd a chadw pellter'

Ym Machynlleth, mae rheolwr y Penrhos, Rhys Jones yn edrych ymlaen at groesawu cwsmeriaid eto.

"Bydd rhaid bwcio bwrdd o flaen llaw, cadw pellter a dilyn y rheolau wrth gwrs," meddai.

"Ond wedi amser mor hir fe fydd hi mor braf gallu ailagor a gweld y cwsmeriaid i gyd."

Ddydd Llun hefyd bydd pyllau nofio awyr agored ac atyniadau awyr agored i ymwelwyr, gan gynnwys ffeiriau, parciau difyrion a pharciau thema yn ailagor.

Bydd hawl hefyd i gynnal gweithgareddau awyr agored, sydd wedi'u trefnu, ar gyfer hyd at 30 o oedolion.

Yn ogystal caiff derbyniadau priodasau ar gyfer hyd at 30 o bobl ddigwydd yn yr awyr agored mewn safleoedd sy'n cael eu rheoleiddio.

Bydd hi'n bosib i ddau berson ymweld â chartref gofal dan do, a bydd mwy o hyblygrwydd i blant ifanc ymweld.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd cyfle i bobl fwynhau'r haul yng Nghonwy ddydd Llun

"Mae hi wedi bod yn flwyddyn hir iawn ac er bod clybiau Ffermwyr Ifanc wedi bod yn cyfarfod ar Zoom a phethe felly dyw e ddim byd tebyg i gwrdd wyneb yn wyneb," medd Mared Rand Jones, cyfarwyddwr dros dro CFfI Cymru.

"Mae angen bod yn wyliadwrus - ond bydd modd cwrdd tu allan o ddydd Llun ymlaen.

"Bydd rhaid sicrhau nad oes mwy na 30 o bobl a rhaid 'neud yn siŵr nad yw pobl yn mynd mewn ceir gyda'i gilydd. Bydd hefyd lot o asesiadau risg a llenwi ffurflenni er mwyn nodi pwy sy'n bresennol.

"Lot o waith ond mae'n golygu bod modd cynnal helfa drysor ar droed neu sesiwn cadw'n ffit.

"Mae hi wedi bod yn aeaf hir a bydd hi'n braf cymdeithasu a gweld ein gilydd eto - ond gyda gofal."

Ffynhonnell y llun, Mared Rand Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mared Rand Jones y bydd hi'n braf i glybiau Ffermwyr Ifanc gael cyfarfod eto

Beth sy'n agor nesaf?

O 3 Mai ymlaen:

  • Bydd campfeydd, cyfleusterau ffitrwydd, canolfannau hamdden a phyllau nofio yn ailagor;

  • Bydd modd ffurfio aelwydydd estynedig o ddwy aelwyd fydd yn gallu cyfarfod a chael cyswllt dan do;

  • Caiff gweithgareddau dan do i blant ailddechrau;

  • Caiff gweithgareddau dan do wedi'u trefnu ar gyfer oedolion ailddechrau ar gyfer hyd at 15 o bobl, gan gynnwys dosbarthiadau ymarfer corff mewn grwpiau;

  • Bydd modd i ganolfannau cymuned ailagor.

Er bod modd gweini y tu allan o ddydd Llun, mae rhai yn y diwydiant lletygarwch wedi penderfynu aros tan y bydd hawl agor o dan do, ar 17 Mai.

"Does dim pwynt i ni agor y tu allan," meddai Katie Parry, rheolwr The Hungry Ram ym Mhenuwch ger Tregaron.

"Mae'r gwynt yn gallu bod yn gryf iawn yma a does dim pwynt i ni gael byrddau tu allan - does dim dal sut mae'r tywydd.

"Ry'n ni'n paratoi i ailagor ganol Mai ac yn edrych ymlaen at hynny."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n rhy wyntog i agor tu allan ym Mhenuwch," medd rheolwraig yr Hungry Ram

Mae canolfan Dan yr Ogof ger Ystradgynlais yn dweud bod angen cymorth ar fusnesau fel nhw yn dilyn "blwyddyn anodd iawn".

Dywedodd y cwmni bod ganddo ddyled o £300,000 gan nad ydyn nhw wedi gallu agor yn llawn ers yr hydref.

"Dim ond 10 wythnos cafon nhw i weithio o Awst nes yr Hydre', ac mae hi wedi bod yn ofnadwy o galed iddyn nhw yma," meddai Arwel Michael, sy'n siarad ar ran y cwmni.

Mae adeg y Nadolig yn golygu ymwelwyr "o bobman yma, nage dim ond o de Cymru a chanolbarth Cymru - maen nhw yn dod o Loegr i ddod i weld Siôn Corn", meddai, ond mae hynny wedi ei golli eleni.

"Mae'n anodd ystyried colli nifer o bobl sydd yn gweithio yma - pobl ifanc a phobl leol mae'n cyflogi," meddai.

"Mae'n drist bod tua 40 ohonyn nhw wedi gorfod gadael."

Beth arall sy'n agor ar 17 Mai?

Mae arbenigwyr yn rhybuddio bod y newidiadau yn ddibynnol ar gyfraddau'r haint.

Ddydd Sul nodwyd bod y gyfradd achosion wedi gostwng yn ystod yr wythnos ddiwethaf o 14.7 i 13.6 ymhob 100,000 o bobl.

Wrth symud i lefel rhybudd dau yng nghanol Mai, mae disgwyl i fwy o sectorau gael agor yn raddol.

  • Bydd llety gwyliau fel safleoedd gwersylla yn agor i aelodau aelwydydd unigol neu aelwydydd estynedig;

  • Caiff atyniadau dan do fel sinemâu, orielau, neuaddau bingo a safleoedd treftadaeth ailagor;

  • Bydd hyd at 50 yn cael cymryd rhan mewn gweithgareddau wedi'u trefnu yn yr awyr agored;

  • A bydd hyd at 30 o bobl yn cael mynychu derbyniadau priodas mewn adeiladau sy'n cael eu rheoleiddio.

Ond mae'r holl newidiadau wedi 6 Mai yn ddibynnol ar bwy fydd yn llywodraethu yng Nghymru yn dilyn etholiad y Senedd.

Beth mae'r pleidiau'n ei ddweud?

Wrth ymateb i lacio'r rheolau Covid ymhellach, dywedodd Mark Drakeford, arweinydd Llafur Cymru, y bydd ailagor y diwydiant lletygarwch y tu allan yn rhoi mwy o gyfleoedd i bobl gwrdd fydd yn cael "effaith gadarnhaol sylweddol ar les pobl".

Yn ôl llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig mae'r newidiadau i'w "croesawu ond yn hwyr yn y dydd, yn enwedig pan ellid fod wedi rhoi mwy o eglurder i'r busnesau yma ers peth amser".

"Yn anffodus mae gweinidogion Llafur wedi dewis chwarae gwleidyddiaeth ar draul busnesau a bywoliaeth pobl, a dyna pam bod Ceidwadwyr Cymru yn addo lleihau dryswch a dod a gemau gwleidyddol Bae Caerdydd i ben ar ôl etholiad Senedd Cymru ym mis Mai."

Dywedodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, mai "diolch i ymdrech ar y cyd gan bobl Cymru", a gweithwyr y GIG y mae'r rheolau yn gallu cael eu llacio.

"Fel pobl ar draws Cymru, rwy'n edrych ymlaen at gefnogi busnesau lleol a mwynhau diod wedi ymbellhau yn gymdeithasol ar ôl diwrnod hir o ymgyrchu dros Blaid Cymru," meddai.

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig Jane Dodds yn dweud bod ailagor yn gam "gofalus ond un i'w groesawu " wrth adfer y sector lletygarwch sydd "yn daer ei angen".

"I nifer o gwmnïau fe fydd enillion yn llai gan eu bod yn gorfod gweithredu ar raddfa lai, ac mae hi yn bwysig bod help ariannol gan y llywodraeth yn parhau."