'Colli enwau Cymreig cynhenid yn bryder ers peth amser'

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi gohirio penderfyniad ar ollwng yr enw Saesneg Snowdon ar gopa uchaf Cymru er galwadau i ddefnyddio'i enw Cymraeg Yr Wyddfa yn unig.

Roedd cynnig gerbron aelodau pwyllgor hefyd yn galw am i Barc Cenedlaethol Eryri ddefnyddio Eryri yn unig, gan gefnu ar yr enw Saesneg, Snowdonia.

Bydd gweithgor newydd yn ystyried polisi'r awdurdod ar enwau llefydd yng Nghymru.

Mae'n benderfyniad "mawr", medd cadeirydd yr Awdurdod, Wyn Ellis Jones, sy'n hyderus o ganfod yr "ateb cywir" i'r mater yn y pen draw.