Parc yn gohirio penderfyniad ar yr enw 'Snowdon'
- Cyhoeddwyd
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi gohirio penderfyniad ar ollwng yr enw Saesneg "Snowdon" er gwaethaf galwad i gopa uchaf Cymru gael ei gyfeirio ato wrth ddefnyddio'i enw Cymraeg "Yr Wyddfa" yn unig.
Gyda'r cynnig hefyd yn galw am i Barc Cenedlaethol Eryri ddefnyddio "Eryri" yn hytrach na "Snowdonia", mae penaethiaid yr awdurdod wedi sefydlu gweithgor i ystyried ei bolisi ar enwau llefydd yng Nghymru.
Dywed cadeirydd yr awdurdod ei fod yn "hyderus" y bydd modd canfod yr "ateb cywir" maes o law, wedi cyfnod o ymgynghori, ond dydi'r mater ddim yn un y dylid ei "frysio".
Sefydlwyd y Parc ym 1951 ac mae'n cynnwys 827 milltir sgwâr o dir mynyddig yn bennaf yng Ngwynedd a Conwy.
Cafodd deiseb flaenorol a oedd yn galw am i'r Parc ollwng "Snowdon" a "Snowdonia" ei gwrthod gan y Senedd y llynedd gan mai cyfrifoldeb y Parc ydoedd, nid Bae Caerdydd.
Fe wnaeth cyfarfod o aelodau'r awdurdod ddydd Mercher - yn cynnwys cynghorwyr sy'n cynrychioli cynghorau Gwynedd a Conwy yn bennaf - wrthod y cynnig gan John Pughe Roberts, cynghorydd Corris a Mawddwy.
Dywedodd y Cynghorydd Roberts ar raglen Dros Frecwast: "Mi ddoth hyn allan o'r gweithgor iaith rai misoedd yn ôl... roedd sawl aelod yn cwyno fod pobl yn newid enwau tai, enwau creigiau, enwa'r mynyddoedd ac ati.
"Yn yr ardal hon er enghraifft mae Bwlch y Groes wedi troi yn 'Hellfire Pass', Dol Hir yn 'Longmeadow' ac mae hyn yn digwydd mewn sawl ardal felly roedd rhaid troi at yr awdurdod llawn i wneud cynnig ffurfiol.
"Mae statws yr iaith wedi newid yn yr 20 mlynedd diwethaf ac mae'n rhaid i ni fel awdurdod fod yn arwain ar y blaen os am gryfhau'r iaith."
Er cynnig Mr Roberts, roedd yr awdurdod yn teimlo fod angen trafodaethau pellach ar oblygiadau defnyddio'r enwau Cymraeg yn unig.
Yn ôl y sôn, bydd y tasglu yma yn ceisio addasu canllawiau ar gyfer y defnydd cyffredinol o enwau lleoedd Cymreig.
Ystyr "Yr Wyddfa" yw bedd, ac yn ôl un chwedl, mae'r cawr Rhita Gawr wedi'i gladdu ar y mynydd. Er hyn, roedd y mynydd hefyd yn cael ei adnabod fel Carnedd y Cawr.
Mae "Eryri" yn tarddu o'r gair Lladin "oriri" (i godi) ac fe gafodd ei gofnodi am y tro cyntaf yn y 9fed ganrif, er gwaethaf y ffaith bod pobl yn credu ers amser maith ei fod yn cyfeirio at y gair "Eryr".
Mae'r ffurfiau Saesneg mwy diweddar yn deillio o'r term Sacsonaidd "twyn eira".
Fodd bynnag, mae cynsail ar gyfer gollwng enwau llefydd Saesneg ar gyfer atyniadau poblogaidd i dwristiaid, gydag Ayres Rock yn Awstralia bellach yn cael ei adnabod yn ffurfiol wrth ei enw Cynfrodorol llawer hŷn - Uluru.
Pe bai'r Parc yn dilyn llwybr tebyg, fodd bynnag, ni fyddai'n gorfodi cyrff ac unigolion eraill i roi'r gorau i ddefnyddio "Snowdon" a "Snowdonia".
'Siomedig'
Wrth siarad â'r Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol ar ôl y penderfyniad, dywedodd Mr Roberts: "Rwy'n naturiol yn siomedig gan fy mod yn teimlo bod hwn yn gyfle go iawn i wneud datganiad ar yr angen i amddiffyn ein henwau brodorol o Gymru.
"Mae 'na lawer o sôn am bobl yn newid enwau tai Cymreig i'r Saesneg ac mae enwau llefydd hir-sefydlog yn cael eu dileu, ond mae'n ddyletswydd ar y sector cyhoeddus i arwain y ffordd yma yn hytrach na mynnu ar y fiwrocratiaeth o gicio'r can i lawr y ffordd i bwyllgor arall."
Ychwanegodd: "Rwy'n siomedig nad oedd rhai aelodau Plaid Cymru yn cefnogi'r cynnig heddiw, ond nid wyf yn rhoi'r gorau iddi a byddaf yn parhau i roi pwysau ar yr awdurdod ac am i ganlyniad y gweithgor gael ei wneud yn gyhoeddus cyn gynted â phosib."
Dywedodd Wyn Ellis Jones, cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: "Penderfynodd aelodau'r awdurdod nad oedd angen ystyried y cynnig heddiw gan fod y tasglu enwau lleoedd Cymraeg eisoes wedi'i benodi.
"Mae hyn yn dilyn ystyriaeth flaenorol gan yr Aelodau mewn Gweithgor a oedd yn argymell sefydlu a mabwysiadu canllawiau i arwain y defnydd o enwau llefydd gan yr Awdurdod. Bydd aelodau yn ystyried y materion hyn unwaith y bydd y grŵp yn gallu gwneud argymhellion.
"Mae'r awdurdod yn ymrwymo i amddiffyn a hyrwyddo'r defnydd o enwau llefydd brodorol ar gyfer defnydd bob dydd yn ogystal â chenedlaethau'r dyfodol."
Mewn cyfweliad pellach ddydd Iau, dywedodd wrth BBC Cymru bod y penderfyniad yn un "eitha 'mawr", a fyddai angen ymgynghoriad gyda chymunedau lleol, llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru.
Nod yr ymgynghori fyddai "dod i fyny efo canlyniad sydd wrach ddim yn mynd i blesio pawb, ond sy'n mynd i fod yr ateb gora' bosib i'r cymuneda' ac i'r parc".
Ychwanegodd bod y broses honno'n debygol o gymryd "peth misoedd, o leia', ond dwi'n hyderus byddwn ni'n dod i fyny efo'r ateb cywir. Ond dydi o ddim yn rwbath ddyliwn ni frysio i mewn iddo."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2020