Etholiad 2021: Faint o fenywod a lleiafrifoedd ethnig fydd yn cael eu hethol?
Ddydd Iau mae'n ddiwrnod Etholiad y Senedd - ond faint o fenywod a phobl o leiafrifoedd ethnig sy'n debygol o gael eu hethol?
Mae nifer y menywod yn y Senedd wedi gostwng ers 2003, a 32% o'r ymgeiswyr eleni sy'n fenywaidd.
Mae cyferbyniad mawr rhwng nifer y menywod sy'n sefyll dros bob plaid hefyd.
Mae'r gynrychiolaeth o bobl o leiafrifoedd ethnig ar gynnydd, ond dydy hynny yn dal ddim yn cyd-fynd â chyfran y boblogaeth yng Nghymru sydd ddim yn wyn.
Ein gohebydd gwleidyddol James Williams sy'n bwrw golwg ar y sefyllfa.