"Ras rhwng datblygiadau'r feirws a'r brechiad"
Mae astudiaeth newydd yn dangos fod cael dau ddos o frechlynnau Pfizer ac Astra Zeneca yn "effeithiol iawn" wrth ddelio ag amrywiolyn India o'r coronafeirws.
Ond mae'r ymchwil yn pwysleisio nad ydyn nhw mor effeithiol ar ôl un dos yn unig.
Mae'r wybodaeth yn "galonogol", medd Dr Eleri Davies o Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac yn tanlinellu'r angen i bobl dderbyn pob gwahoddiad i gael eu brechu.
Cadarnhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Sul bod dros filiwn o bobl Cymru bellach wedi cael y cwrs llawn, ac mae dros ddwy filiwn wedi cael un dos.
Mae'r rhaglen frechu, meddai Dr Davies, "yn mynd yn dda iawn yng Nghymru ar hyn o bryd", ond mae'n rhaid atal lledaeniad amrywiolion sydd eisoes yn destun pryder, a chadw rheolaeth ar unrhyw amrywiolion sy'n debygol o ddatblygu yn y misoedd i ddod.