71 achos newydd o Covid-19 wedi eu cofnodi
- Cyhoeddwyd
Mae 71 o achosion newydd o Covid-19 wedi eu cofnodi dros y 24 awr ddiweddaraf, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Conwy sy'n parhau i fod â'r gyfradd uchaf o achosion i bob 100,000 o'r boblogaeth dros saith diwrnod, sef 23.
Mae trigolion y sir yn cael eu hannog i fynd am brawf Covid mor fuan â phosib, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n dangos symptomau.
Mae hynny'n wir hefyd yn ardal Porthmadog, lle mae dau achos wedi'u cadarnhau o amrywiolyn Delta.
Ni chafodd yr un farwolaeth ychwanegol ei chofnodi dros yr un cyfnod hyd at 09:00 ar 3 Mehefin.
Cyfradd yn gostwng
Mae'n golygu bod cyfanswm y marwolaethau'n aros ar 5,569, a nifer yr achosion wedi codi i 212,999.
Mae 2,169,624 o bobl bellach wedi cael y dos cyntaf o'r brechlyn, a 1,181,259 wedi cael dau ddos.
Bellach mae'r cyfradd achosion i bob 100,000 o'r boblogaeth dros saith diwrnod wedi codi i 7.96 o 7.52 ddydd Iau.
Yn ogystal â Chonwy, y siroedd eraill sydd â chyfradd yn y ffigyrau dwbl yw Wrecsam a Sir Ddinbych (12.5), Castell-Nedd Port Talbot (11.2), a Chaerdydd (10.4).
Y siroedd gyda'r cyfraddau isaf ydy Ynys Môn (1.4) a Merthyr Tydfil (1.7).
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd30 Mai 2021
- Cyhoeddwyd30 Mai 2021