Digon o ddata am amrywiolyn Delta 'i godi pryder'
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud bod digon yn y data am yr amrywiolyn Delta "i godi pryder".
Daw hyn yn dilyn achosion o'r amrywiolyn mewn sawl ardal yng Nghymru, gan gynnwys ym Mhorthmadog a Sir Conwy.
Dywedodd Mr Drakeford nad oedd gan ysbytai Cymru lawer o le ar hyn o bryd i drin cleifion Covid oherwydd eu bod bellach yn blaenoriaethu'r triniaethau hynny oedd ddim yn digwydd yn ystod y cyfnod clo.
Dyna pam fod Llywodraeth Cymru, meddai, wedi cymryd camau gofalus wrth lacio'r cyfyngiadau yr wythnos hon.