Covid: Dau achos o'r amrywiolyn Delta ym Mhorthmadog

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cob Porthmadog
Disgrifiad o’r llun,

Mae dwy achos o'r amrywiolyn Delta wedi cael eu cadarnhau yn ardal Porthmadog

Mae dau achos o'r amrywiolyn Delta, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel amrywiolyn India, wedi cael eu cadarnhau ym Mhorthmadog, Gwynedd.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae yna 12 achos pellach o coronafeirws yn yr ardal, ac mae profion yn cael eu gwneud i weld a ydyn nhw hefyd yn achosion o'r amrywiolyn Delta.

Mae canolfan brofi symudol bellach wedi cael ei sefydlu ym mhrif faes parcio'r dre fel bod unrhyw drigolion yn yr ardal yn gallu cael prawf Covid-19.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf mae 97 achos o'r amrywiolyn Delta wedi cael eu cadarnhau yng Nghymru.

Yn ogystal â'r ddau achos ym Mhorthmadog, cadarnhaodd swyddogion bod "o gwmpas hanner" o achosion yr amrywiolyn Delta yn Sir Conwy, lle mae clwstwr o achosion wedi cael eu darganfod yn ardaloedd Llandudno, Cyffordd Llandudno a Bae Penrhyn.

Mae achosion o'r amrywiolyn Delta hefyd wedi cael eu cadarnhau yng Nghaerdydd.

'Testun pryder'

Dywedodd Dafydd Wyn Williams, Cadeirydd Grŵp Gwyliadwriaeth ac Ymateb Covid-19 Aml-Asiantaeth Gwynedd: "Mae'r ffaith bod dau achos yn ardal Porthmadog wedi cael eu cadarnhau fel achosion o'r amrywiolyn Delta yn destun pryder.

"Mae hwn yn ein hatgoffa nad yw Covid-19 wedi ein gadael, ac mae mor bwysig ag erioed bod pobl leol ac ymwelwyr i'r ardal yn dilyn y rheolau i gadw eu hunan, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach yn ddiogel."

Dywedodd Dr Eilir Hughes, sy'n arwain Clwstwr Meddygfeydd Ardal Dwyfor ac sy'n aelod o'r Grŵp Gwyliadwriaeth ac Ymateb: "Rydyn ni'n gwybod bod amrywiolyn Delta'r feirws yn drosglwyddadwy iawn felly mae'n bwysig iawn ein bod ni gyd yn chwarae'n rhan i atal y lledaeniad.

"Gallwn wneud hyn trwy aros tu allan pan rydyn ni yng nghwmni pobl eraill, gwisgo mygydau, cadw pellter cymdeithasol a golchi ein dwylo'n aml.

"Pan rydych chi du fewn gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw ffenestri a drysau ar agor i sicrhau bod awyr ffres yn dod mewn."