Euro 2020: 'Dyma lle mae'n gwlad ni eisiau bod'

Rhai misoedd yn ôl roedd amheuaeth a fyddai Joe Allen yn holliach i fynd i Euro 2020 gyda Chymru wedi iddo gael anaf cas.

Y newyddion da i'r Wal Goch yw ei fod yn dweud ei fod yn ffit ac wedi gwella'n llwyr, ac yn edrych ymlaen at y bencampwriaeth.

Bydd Cymru'n herio'r Swistir ddydd Sadwrn, ac yna Twrci ddydd Mercher, gyda'r ddwy gêm yn cael eu chwarae yn Baku, Azerbaijan.

Yno mae'r garfan yn ymarfer, ac yno hefyd y cafodd Dylan Griffiths gyfle i sgwrsio gyda chwaraewr sy'n allweddol o obeithion Cymru, Joe Allen.